Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ymweld â'r Ganolfan Gyswllt

Gallwch ymweld â'r Ganolfan Gyswllt os oes angen i chi gyflwyno dogfennau gwreiddiol i gefnogi hawliad am fudd-dal newydd neu gyfredol, neu os hoffech drafod ymholiad cymhleth.

Does dim angen i chi drefnu apwyntiad fel arfer, gan fod staff wrth law i'ch helpu yn y Ganolfan Gyswllt rhwng 8.30am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30am a 4.00pm ar ddydd Gwener.

Os nad ydych yn cyflwyno dogfennau a hoffech siarad ag aelod o staff am eich hawliad, mae nifer o ffyrdd y gallwch wneud hyn:

Gallwch hefyd ofyn i ni drefnu apwyntiad i chi siarad ag aelod o staff dros Microsoft Teams o gysur eich cartref eich hun, ar adeg sy'n gyfleus i chi.

Os oes angen apwyntiad arnoch o hyd yn y Ganolfan Gyswllt neu dros Microsoft Teams, llenwch y ffurflen. Nodwch pa fath o apwyntiad y mae ei angen arnoch.Bydd angen i chi roi o leiaf 2 ddiwrnod gwaith o rybudd i ni wrth wneud cais am apwyntiad.

Mae'r ffurflen hon ar gael yn Gymraeg - cliciwch ar 'Cymraeg' ar gornel dde uchaf eich sgrin.

Close Dewis iaith