Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffyrdd o arbed ynni

Mae ynni cartref yn cyfrannu 53 - 57% o allyriadau carbon aelwyd bob blwyddyn. Ers 2004 mae costau ynni wedi mwy na dyblu.

Syniadau Syml ar gyfer Arbed Ynni

 

Camau syml ar sut i arbed ynni ar gyfer pob cartref

Arbediad costau blynyddol posib

Arbediad CO2e blynyddol a charbon cyfatebol i bellter gyrru

Offer

Os oes angen i ni gael offer/peiriannau newydd yn lle'r hen rai, y peth gorau bob amser yw ceisio cael y modelau mwyaf effeithlon o ran ynni y gallwn eu fforddio, oherwydd bydd prynu un rhatach, llai effeithlon o ran ynni, yn economi ffug yn y pen draw.          

Diffoddwch yr offer

o'r modd segur.

Diffoddwch ddyfeisiau o'r modd segur, neu o'r modd gorffwys e.e. teledu, blychau a recordwyr teledu, cyfrifiaduron a monitorau, consolau gemau, microdonnau, hi-fi a seinyddion, peiriannau argraffu, gwefrwyr ffôn

£55      ar gyfartaledd

45kg CO2e (163 o filltiroedd

Abertawe i

Fachynlleth ac yn ôl)

Rhedeg eich peiriant golchi llestri 

Rhedwch eich peiriant golchi llestri pan fydd yn llawn i leihau swm y dŵr rydych yn ei ddefnyddio a'r nifer o weithiau rydych chi'n ei ddefnyddio gan unwaith yr wythnos.

£14 

11kg CO2e (40 o filltiroedd

Abertawe i Sain

Ffagan)

Berwch y dŵr sydd ei angen arnoch yn unig

Berwch y dŵr sydd ei angen arnoch yn unig yn eich tegell. Os ydych chi'n gweld eich bod wedi berwi gormod, arllwyswch ef i fflasg i'w ddefnyddio'n ddiweddarach.

£11

9kg CO2e (33 o filltiroedd

Abertawe i Ferthyr

 Tudful)

Gosodwch fylbiau golau

light bulbs with

LED yn lle'ch hen rai

Disodlwch fylbiau golau gyda rhai LED dros amser. Bydd rhoi bwlb LED yn lle bwlb nodweddiadol 60w yn arbed digon o arian i dalu amdano'i hun mewn dwy flynedd.  

£6 fesul pob bwlb gwynias 60w, £55 ar gyfer gosod bylbiau LED newydd yn lle'r holl fylbiau mewn cartref arferol

4.7kg CO2e fesul pob bwlb gwynias 60w

sy'n cael ei ddisodli, 43kg CO2e ar gyfer disodli'r holl fylbiau mewn cartref arferol (17 milltir fesul bwlb, Abertawe i'r Pîl, 156 o filltiroedd ar gyfer yr holl fylbiau yn y

Cartref, Abertawe i

Winchester)

Defnyddiwch eich peiriant golchi ar dymheredd is a dim ond pan fydd yn

 llawn

Defnyddiwch gylchoedd 30 gradd peiriant golchi yn hytrach na thymheredd uwch. Ychwanegwch sgŵp bach o soda pobi at eich dillad gwyn neu ddillad babanod i helpu i'w cadw'n wyn.  Golchwch eich dillad pan fydd gennych ddigon i lenwi'r peiriant yn unig i leihau'r nifer o weithiau rydych chi'n defnyddio'r peiriant.

£14 ar gyfer golchi

ar 30, 

£14 ar gyfer lleihau nifer o weithiau rydych chi'n golchi'ch  dillad o unwaith yr wythnos

11kg CO2e ar gyfer golchi ar 30 (40 o filltiroedd Abertawe i San

Ffagan) 12kg CO2e ar gyfer golchi'ch dillad unwaith yn llai yr wythnos (43 o filltiroedd Abertawe i Ikea, 

Caerdydd)

Sychwch eich dillad yn naturiol pan fydd hynny'n bosib

Peidiwch â defnyddio sychdaflwr ar gyfer eich dillad: sychwch ddillad ar reseli y tu mewn lle bo'n bosib neu y tu allan mewn tywydd cynhesach. Bydd defnyddio rhesel i sychu dilllad y tu mewn yn y gaeaf yn arbed hyd yn oed yn fwy o arian a CO2e. Dylech awyru ystafelloedd lle mae dillad gwlyb yn sychu bob tro.

£60

45kg CO2e (163 o filltiroedd

- Abertawe i

Fachynlleth ac yn ôl)

 

Cadwch eich rhewgell yn llawn

 

Dylai oergell fod yn 4-5 *C a dylai rhewgell fod yn -18*C. Mae'r rhain ymysg y peiriannau sy'n defnyddio'r swm mwyaf o drydan o unrhyw offer am eu bod ymlaen ddydd a nos.  Mae'n fwy effeithlon os yw'n cael ei chadw o leiaf 2/3 yn llawn, ond peidiwch â'u gorlenwi. Cadwch lygad ar rew sy'n cronni ac ewch ati i'w ddadrewi'n rheolaidd. Gwiriwch fod seliau'r drysau mewn cyflwr da a thynnwch y llwch oddi ar goiliau'r cyddwysydd yn y cefn bob hyn a hyn.

Gwelliannau i adeiladau a gwresogi lleoedd

Bydd ffenestri gwydr dwbl da, waliau, atig, a llawr wedi'i inswleiddio yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r defnydd o ynni, ond gall y rhain fod yn ddrud ac efallai na fyddant yn briodol os ydych yn rhentu. Mae ffyrdd eraill o arbed ynni sy'n rhatach ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'ch biliau a'ch ôl troed carbon. Gwiriwch y radd Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer eich cartref a'i defnyddio fel arweiniad i'ch helpu i wneud gwelliannau. Os ydych chi'n rhentu, gwnewch yr un peth gan y disgwylir i landlordiaid gynnal argymhellion ar gyfer effeithlonrwydd ynni.

Gosodwch eich gwres ar amserydd ac addaswch y tymheredd

Dylid cynhesu cartref iach tua 18-21°C. Efallai y bydd angen i'r tymheredd hwn fod yn uwch ar gyfer yr henoed neu blant ifanc iawn a'r rheini sy'n dioddef o salwch, ond yn gyffredinol os defnyddir hyn fel canllaw, gallem arbed ynni. 

£105 os ydych chi'n troi'r thermostat i lawr o 21 -

20 gradd Celsius

310kg CO2 ar gyfer pob gradd rydych chi'n ei throi i lawr

(1,123 o filltiroedd o Abertawe i Aberdeen ac yn ôl)

Cael gwared ar y bylchau

Sicrhewch fod y bylchau o gwmpas ffenestri, drysau ac estyll yn gwrthsefyll drafftiau drwy osod stribedi sbwng, seliau neu frwsys plastig - a selio bylchau gyda selydd. Gwnewch yn siŵr bod eich drysau'n gwrthsefyll drafftiau drwy hongian llenni neu ddefnyddio rhimyn drafft 'selsig'.

£45 ar gyfer ffenestri a drysau, £50 ar gyfer lloriau

105kg CO2 ar gyfer ffenestri a drysau (380 o filltiroedd Abertawe i

Chichester ac yn ôl),

115kg CO2 ar gyfer lloriau

(417 o filltiroedd Abertawe i Sevenoaks, Caint ac yn ôl)

Tynnwch eich llenni gyda'r cyfnos

Bydd tynnu'ch llenni yn helpu i atal gwres rhag dianc drwy ffenestri. Ar gyfartaledd bydd arbediad o 13-17% ar eich biliau. Os yw eich llenni wedi'u leinio'n thermol neu wedi'u leinio ddwywaith, gallwch arbed rhagor o arian ac felly rhagor o garbon.

Inswleiddio pibellau a thanciau dŵr twym

Mae inswleiddio'ch tanc dŵr twym yn effeithiol yn bwysig: hyd yn oed os oes gennych sbwng chwistrellu tenau neu siaced 25mm rhydd, gallwch elwa o gynyddu'r inswleiddio i Siaced Safonol Brydeinig 80mm o drwch.

£155 i inswleiddio silindr sydd heb ei inswleiddio, £35 i wella inswleiddio silindr a £6 ar gyfer gwaith pibellau

£35 = 115kg CO2 (417 o filltiroedd

Abertawe i

Sevenoaks, Caint ac yn ôl)

Inswleiddio'ch atig

Mae 25% o'r gwres a gollir mewn cartref yn cael ei golli drwy'r to. Os ydych yn gwneud yn siŵr bod eich inswleiddio yn yr atig o leiaf 10-14 modfedd o drwch bydd yn lleihau'r gwres sy'n cael ei golli'n sylweddol. Gwiriwch eich atig ac os nad yw wedi'i inswleiddio dylech flaenoriaethu hyn gan fydd hyn yn arbed y swm fwyaf o arian ac ynni i chi.

Hyd at £225

(teras) - £580 (ar wahân) yn seiliedig ar wres canolog nwy. 

520kg CO2 - 1300kg

CO2 (1,884 o filltiroedd

Abertawe i

Thessaloniki, Gwlad Groeg - 4,711 o filltiroedd, Abertawe

i Kandaha, Afganistan)

Cymerwch gawod yn hytrach na bath

Cadwch eich amser cawod i 4 munud. A chyfnewid un bath yr wythnos i gawod.

£70 ar gyfer cael cawodydd sy'n para llai na 4 munud, £12 ar gyfer newid un bath yr wythnos i gawod ar gyfer y cartref teulu arferol

205kg CO2 ar gyfer cael cawodydd sy'n para llai na 4 munud (743 o filltiroedd Abertawe i Plymouth ac yn ôl ddwywaith), 35kg CO2 ar gyfer newid i un bath yr wythnos (127 o filltiroedd Abertawe i Borthmadog)

Cynhyrchwyd gyda diolch i'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni