Newid yn yr hinsawdd a natur
Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd ac yn arwain at heriau byd-eang difrifol megis tymereddau'n codi ar draws y byd, patrymau tywydd newidiol, lefelau'r môr yn codi a mwy o dywydd eithafol.
Mae effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cael eu teimlo eisoes yn Abertawe. Dros y blynyddoedd diweddar, mae Abertawe wedi profi llifogydd, stormydd eithafol a thanau gwyllt. Mae hyn yn golygu bod newid yn yr hinsawdd yn broblem leol yn ogystal â phroblem fyd-eang, sy'n cael effeithiau lleol sylweddol yn enwedig i aelodau mwyaf diamddiffyn ein cymuned.
Rhagwelir hafau sychach a chynhesach a gaeafau mwynach a gwlypach gyda digwyddiadau tywydd mwy eithafol. Mae'n bosib y bydd yr Abertawe y bydd ein hwyrion yn cael ei magu ynddi'n wahanol iawn i'n un ni, ond y newyddion da yw y gallwn weithio gyda'n gilydd i geisio gwneud y dyfodol hwnnw'n un cadarnhaol.
Ein hargyfwng hinsawdd
Yn 2019, datganodd Cyngor Abertawe argyfwng hinsawdd, a dilynwyd hyn gan gynllun gweithredu i leihau ein hallyriadau sefydliadol, adolygiad polisi i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd fel rhan o bopeth y mae'r cyngor yn ei wneud, a chynlluniau ar gyfer ymgysylltu â phartneriaid a dinasyddion a gweithio gyda nhw i ymdrechu i fod yn Abertawe ddi-garbon net erbyn 2050.
Siarter Hinsawdd Cyngor Abertawe
Bydd Arweinydd Cyngor Abertawe'n llofnodi Siarter Newid yn yr Hinsawdd. Bydd hwn yn nodi ein hymrwymiad i greu cyngor di-garbon net erbyn 2030. Gofynnwn i'n partneriaid ymuno â ni wrth lofnodi hwn ac i bobl ddangos eu cefnogaeth i Abertawe di-garbon net. Siarter Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Abertawe.
Targedau newid hinsawdd
Mae gennym darged sefydliadol i sicrhau Cyngor Abertawe Di-garbon net erbyn 2030. Mae hyn yn golygu lleihau a gorbwyso allyriadau carbon o weithgareddau ac adeiladau'r cyngor.
Ond nid yw'r hyn y gall y cyngor ei wneud ar ei ben ei hun yn ddigon. I wneud gwahaniaeth go iawn, mae angen i bawb ar draws Abertawe gyfan leihau eu hôl-troed carbon. Mae angen i bawb gymryd rhan a gwneud newidiadau. Ein huchelgais yw sicrhau Abertawe Di-garbon net erbyn 2050.
Gweithredu ar yr hinsawdd
Mae Cyngor Abertawe yn gweithredu ond mae gan ein holl ddinasyddion a'n sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol rannau pwysig i'w chwarae.
Ymunwch â ni ar ein taith hinsawdd i sicrhau Abertawe Ddi-garbon Net ar gyfer 2050.
Cofrestrwch yma os hoffech dderbyn diweddariadau neu gymryd rhan (fel unigolyn, sefydliad neu fusnes).
Siarter Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Abertawe
Sero Net 2030
Argyfwng natur
Climate Change Risk Assessments
Addewid hinsawdd
