Sero Net 2030
Sut rydym yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar draws y cyngor.
Y daith hyd yn hyn
- Gostyngiad o 61% mewn allyriadau carbon o gymharu â lefelau 2010
- Gostyngiad o 58% mewn buddsoddiadau tanwydd ffosil gan y Gronfa Bensiwn, gydag ymrwymiad i ddod yn Sero-Net erbyn 2037
- Gosodwyd mannau gwefru cerbydau trydan mewn 12o feysydd parcio'r cyngor, sy'n gwasanaethu 32 cilfach ailwefru, ac mae 40 o fannau gwefru pellach yn cael eu gosod mewn 12 maes parcio arall a 3 hwb cymunedol yn 2022
- Mae ein trydan i gyd yn dod o ffynonellau ynni adnewyddadwy 100%
- Mae ein hysgolion a'n cymunedau'n elwa o baneli ynni solar cymunedol 900kw
- Caiff ein tai cyngor newydd eu hadeiladu mewn ffordd hynod ynni effeithlon yn unol â "Safon Abertawe" gyda storfeydd batri solar a phympiau gwres ffynhonnell aer.
- Mae ein rhwydwaith beicio wedi tyfu 25% dros 3 blynedd
- Mae ein cerbydlu'n cynnwys 46 o geir a faniau trydan ac 1 car hybrid, gyda 50 yn rhagor i ddod erbyn haf 2022 gan gynnwys 1 cerbyd sbwriel trydan a 2 beiriant ysgubo'r ffordd trydan
- Eco-Sgolion mae pob ysgol yn cymryd rhan yn y cynllun Eco-Sgolion. Mae gan 42% o ysgolion wobr y Faner Blatinwm ac mae gan 23% ohonynt Wobr y Faner Werdd.
- Mae Abertawe wedi llwyddo i gyrraedd targed o fodloni lefelau ailgylchu o 64%erbyn 19/20
- Uwchraddiwyd 22,013 o oleuadau stryd i rai LED allyriad isel
- Canmolwyd y cynllun Morlyn Eden Las
Strategaeth isadeiledd gwyrdd
Mae'r strategaeth hon yn ystyried sut y gellir cynyddu isadeiledd gwyrdd yn Abertawe.
Adeiladau
Mae Cyngor Abertawe wedi datblygu 'Safon Abertawe' i arwain y gwaith o adeiladu tai cyngor newydd yn unol ag effeithlonrwydd ynni ac arfer gorau wrth leihau carbon.
Bioamrywiaeth
Rydym yn dibynnu ar ecosystem anifeiliaid, planhigion a micro-organebau iach, felly mae bioamrywiaeth yn hanfodol ar gyfer y prosesau sy'n cynnal yr holl fywyd ar y Ddaear, gan gynnwys bodau dynol.
Cludiant cynaliadwy
Mae llawer o waith cadarnhaol wedi'i wneud yn y maes hwn ac mae'r cyngor yn ceisio dod â'r cyfan ynghyd i lunio strategaeth trafnidiaeth a theithio gynaliadwy.
gweithreduaryrhinsawddpensiynau
Mae cronfa bensiwn arobryn Cyngor Abertawe eisoes wedi cymryd camau pwysig i leihau ei hôl troed carbon drwy leihau'r swm o arian a fuddsoddir mewn cwmnïau olew a sefydliadau eraill â dwysedd carbon uchel.
Addysg
Yng Nghymru mae gennym gwricwlwm newydd - Dyfodol Llwyddiannus, y mae ei bedwar prif ddiben yn ffurfio'r fframwaith sy'n sail i'r holl ddysgu ac addysgu yng Nghymru.
Polisïau Sero Net 2030
Polisïau a strategaethau sy'n gweithredu ar newid yn yr hinsawdd.
Strategaeth newid yn yr hinsawdd a natur 2022-2030
Mae ymrwymiad Cyngor Abertawe i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn cael ei rannu'n ffrydiau gwaith a ddiffinnir yn glir, ochr yn ochr â'i ymrwymiad i adferiad natur.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 16 Chwefror 2024