Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithredu ar yr hinsawdd - cludiant cynaliadwy

Mae llawer o waith cadarnhaol wedi'i wneud yn y maes hwn ac mae'r cyngor yn ceisio dod â'r cyfan ynghyd i lunio strategaeth trafnidiaeth a theithio gynaliadwy.

Byddai hyn yn cynnwys sut mae'r cyngor yn ymdrin â'i gerbydlu, y cerbydlu llwyd (milltiredd personol gweithwyr), ei allyriadau o oleuadau stryd, hyrwyddo teithio llesol yn barhaus a datblygu system cludiant cyhoeddus gynaliadwy leol a rhanbarthol.

Y cyngor i fuddsoddi mewn cerbydlu gwyrdd mwy

Mae cynlluniau Cyngor Abertawe i weithredu cenhedlaeth newydd o gerbydau trydan yn datblygu'n gyflym.

Cynnig bysus am ddim yn dychwelyd ar gyfer gwyliau'r haf

Mae menter bysus am ddim Cyngor Abertawe yn dychwelyd ar gyfer gwyliau'r haf, gan ddechrau ar 29 Gorffennaf.

Teithio llesol

Term ar gyfer gwneud taith mewn ffordd gorfforol, fel beicio neu gerdded yw teithio llesol. Rydym am wella a hyrwyddo teithio llesol er lles pawb.

Rhagor o gyllid yn dod i Abertawe ar gyfer cerdded a beicio

Disgwylir i lwybrau cerdded a beicio yn Abertawe gael eu hehangu ar ôl i Gyngor Abertawe sicrhau miliynau mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae cynnig Bysus Am Ddim ein dinas yn ôl ar gyfer hanner tymor y Jiwbilî

Mae cynnig bysus am ddim hynod boblogaidd Abertawe yn ôl ar gyfer penwythnos olaf mis Mai a phenwythnos hir Gŵyl y Banc ar ddechrau'r mis nesaf.

Llochesi bysus newydd yn cael eu gosod o hyd

Mae 40 o lochesi bysus newydd eisoes wedi cael eu gosod ar safleoedd bysus yn Abertawe, a bydd rhagor yn cael eu gosod dros yr wythnosau i ddod.

Cymuned yn rhannu ei barn ar gynlluniau ar gyfer llwybrau beicio yng nghanol y ddinas

Gwahoddwyd preswylwyr a busnesau yn Abertawe i helpu i lunio llwybr cerdded a beicio arfaethedig trwy'r ddinas.

Cerbydau trydan

Gwybodaeth i breswylwyr ac ymwelwyr sy'n defnyddio cerbydau trydan.

Miloedd yn gwneud yn fawr o fenter #BysusAmDdimAbertawe

Mae miloedd o breswylwyr y ddinas wedi bod yn gwneud yn fawr o gynnig teithiau bws #BysusAmDdimAbertawe.

Prosiectau teithio llesol cyfredol

Dyfarnwyd cyllid grant i'r prosiectau hyn o'r gronfa teithio llesol i'w datblygu neu eu cyflawni.
Close Dewis iaith