Cerbydau trydan
Gwybodaeth i breswylwyr ac ymwelwyr sy'n defnyddio cerbydau trydan.
Mae gennym 36 o leoliadau ar draws Abertawe sy'n cynnig cyfleusterau gwefru cerbydau trydan - cyfanswm o 102 o wefrwyr a chilfachau. Mae oddeutu 50% o'r gwefrwyr cerbydau trydan cyhoeddus yn yr ardal yn rhai sy'n eiddo i ni, ac maent ar gael mewn rhai meysydd parcio, canolfannau hamdden a lleoliadau ar y stryd. Maent yn cynnig gwefru cyflym gan ddefnyddio trydan sy'n 100% adnewyddadwy.
Ar y dudalen hon
Cost gwefru eich cerbyd trydan
- Tâl cysylltu: dim tâl
- Cyfradd wefru: 65c y kWh
- Tâl parcio: gwiriwch yn y lleoliad a thalwch y ffi berthnasol
Lleoliadau
Gweithredir ein holl wefrwyr cerbydau trydan gan drydydd parti sef Clenergy EV (Yn agor ffenestr newydd).
Map o wefrwyr cerbydau trydan Map o wefrwyr cerbydau trydan
Gwefrwyr cerbydau trydan yn ein meysydd parcio Gwefrwyr cerbydau trydan yn ein meysydd parcio
Parcio a theithio Parcio a theithio
Gwefrwyr cerbydau trydan ar y stryd Gwefrwyr cerbydau trydan ar y stryd
Caiff gwefrwyr cyhoeddus eu rhestru hefyd ar Zap Map, y wefan canfod isadeiledd gwefru cerbydau trydan fwyaf poblogaidd yn y DU: Dod o hyd i fan gwefru sy'n agos i chi (Zapmap) (Yn agor ffenestr newydd)
Sut i ddefnyddio'r mannau gwefru cerbydau trydan
Gellir defnyddio'r gwefrwyr cerbydau trydan naill ai ar sail talu wrth fynd drwy ffonio'r darparwr i ddechrau gwefru neu gallwch gofrestru ar ei gymhwysiad (ap) ffôn clyfar i ddefnyddio'i wefrwyr: Clenergy EV (Yn agor ffenestr newydd)
Mae'r gwefrwyr diweddaraf yn cynnig opsiwn taliad digyswllt, nodwedd rydym yn bwriadu ei chyflwyno ar bob gwefrwr cerbydau trydan cyhoeddus presennol ac yn y dyfodol i wneud y broses yn fwy hwylus.
Sut i wefru'ch car os nad oes gennych le i barcio oddi ar y stryd gartref
Nid ydym yn caniatáu i bobl ddefnyddio ceblau gwefru cerbydau trydan preifat i wefru cerbydau ar y briffordd (lleoliadau ar y stryd). Bydd angen i chi ddod o hyd i'ch man gwefru cerbydau trydan cyhoeddus agosaf i wefru'ch cerbyd. Gweler y rhestr lawn o'n lleoliadau gwefru uchod neu cymerwch gip ar Zapmap (Yn agor ffenestr newydd).
Rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer gwefru ar y stryd, gan gynnwys treialu 'prawf gwefru cerbydau trydan gartref ar y stryd' yn 2025-26 mewn 10 eiddo preswyl yn Abertawe i asesu ymarferoldeb sianeli gwefru ar draws palmentydd: Treial mannau gwefru preswyl ar y stryd ar gyfer cerbydau trydan
Datblygiadau yn y dyfodol
Rydym yn bwriadu parhau i osod mannau gwefru cerbydau trydan ar draws yr awdurdod lleol. Bydd hyn yn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i drawsnewid i system drafnidiaeth carbon isel, allyriadau isel yng Nghymru ac yn cyd-fynd â strategaeth gwefru cerbydau trydan (Yn agor ffenestr newydd) a Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru (Yn agor ffenestr newydd) Llywodraeth Cymru.
Gwybodaeth am yr isadeiledd gwefru cerbydau trydan
Mewn meysydd parcio
Mae'r 32 safle'n cynnig cyfanswm o 96 o wefrwyr 'chwim', sy'n golygu bod y gwefrwyr yn cynnig 7-22kW o bŵer.
Gallwch wefru batri cerbyd ar y gyfradd wefru uchaf y gall y cerbyd ei derbyn yn unig. Er enghraifft, os yw cyfradd wefru uchaf eich cerbyd yn 7kW, ni fyddwch yn gwefru'n gyflymach drwy ddefnyddio gwefrwr 22kW. Gallwch ddefnyddio'r gwefrwr o hyd, a bydd yn rhoi'r gyfradd wefru uchaf i chi hyd at 22kW.
Lleoliadau ar y stryd
Mae pedwar lleoliad ar y stryd sy'n cynnig isadeiledd gwefru cerbydau trydan i'r cyhoedd ar hyn o bryd. Mae pob hwb gwefru'n cynnwys un gwefrwr dau ben sy'n gallu darparu 22kw o bob soced.
Lleolir gwefrwyr cerbydau trydan ar y stryd gerllaw siopau a busnesau lleol fel y gall preswylwyr Abertawe ac ymwelwyr â'r ddinas wefru eu cerbydau pan fyddant ar eu taith.
Mae ein hisadeiledd gwefru cerbydau trydan a osodwyd hyd yn hyn wedi'i ariannu'n llawn drwy grant gan Lywodraeth Cymru, neu drwy gyfuno grantiau gan Lywodraeth Cymru a'r Swyddfa Cerbydau Di-allyriadau.
