Toglo gwelededd dewislen symudol

Treial mannau gwefru preswyl ar y stryd ar gyfer cerbydau trydan

Mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, rydym yn treialu mannau gwefru preswyl ar y stryd ar gyfer cerbydau trydan drwy osod sianeli ar gyfer ceblau gwefru ar draws palmentydd mewn 10 eiddo ar draws yr awdurdod lleol.

Rydym yn gwahodd preswylwyr nad oes ganddynt fynediad at le parcio oddi ar y stryd (megis garej neu ddreif) i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y treial a fydd yn para am gyfnod o 12 mis.

Gan taw treial yw hwn, ni fydd angen i gyfranogwyr wneud unrhyw gyfraniadau ariannol tuag at gostau cyflenwi a gosod y gwefrwr na'r cyfarpar ar gyfer gosod y sianel ar gyfer cebl gwefru. Ariennir y treial yn llawn gan Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn Llywodraeth Cymru am 12 mis.

Pam rydym yn cynnal y treial hwn

Diben y treial yw asesu addasrwydd y cyfarpar gwefru ar y stryd a ddewiswyd mewn sefyllfaoedd gwefru gwahanol, gan ein galluogi i gasglu gwybodaeth sy'n helpu i greu strategaethau a gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno sianeli ar gyfer ceblau gwefru cerbydau trydan posib yn y dyfodol.

Mae nifer o bobl sy'n gyrru cerbydau trydan yn dewis gwefru eu cerbydau y tu allan i'r cartref lle gallant elwa o ffioedd rhatach. Mae gorsafoedd gwefru cyhoeddus yn ddrytach ac yn cael eu defnyddio'n aml i ychwanegu ychydig o bŵer at fatri'r cerbyd yn unig. Gall preswylwyr sydd â dreifiau neu garejis wefru eu cerbydau trydan gartref gan ddefnyddio gwefrwr y tu allan i'r cartref. Nid yw'r rheini heb le parcio oddi ar y stryd yn gallu gwneud hynny.

Fel nifer o awdurdodau lleol ar draws y DU, nid ydym yn caniatáu ceblau gwefru cerbydau trydan preifat at ddibenion gwefru cerbydau trydan ar y briffordd ar hyn o bryd. Mae hyn o ganlyniad i'r perygl baglu y gall ceblau rhydd ei achosi i ddefnyddwyr y briffordd/troedffyrdd. Gall ceblau hefyd achosi perygl trydanol os ydynt yn cael eu difrodi, eu symud neu eu fandaleiddio. I fynd i'r afael â hyn, mae rhai awdurdodau lleol yn y DU wedi cyflwyno treialon i asesu addasrwydd atebion gwefru ar y stryd sy'n dod i'r amlwg er mwyn darparu mannau gwefru diogel a hygyrch heb beryglu diogelwch ar y priffyrdd.

Ynghylch y sianel ar gyfer cebl gwefru

Kerbo Charge yw gwneuthurwr y sianeli ar gyfer ceblau gwefru a fydd yn cael eu defnyddio yn y treial. Gellir defnyddio'r sianel ar gyfer cebl gwefru i wefru'ch cerbyd gan gysylltu'ch cerbyd â gwefrwr y tu allan i'ch cartref. Er mwyn gwefru ar y stryd bydd angen parcio'ch cerbyd gerllaw'r cebl wrth wefru'r cerbyd. Gan nad oes modd rhoi lle parcio ar gadw wrth barcio ar y stryd, dylech fod yn gallu parcio yn y ffordd hon tua dwywaith yr wythnos.

Rhaid defnyddio'r sianel Kerbo Charge gyda cheblau hyd at 20mm mewn diamedr yn unig, sy'n dod o ddyfais atal diffygion PEN, megis gwefrwr cerbyd trydan clyfar gyda dyfais atal diffygion PEN integredig, neu soced awyr agored dynodedig gyda dyfais atal diffygion PEN ar wahân a osodwyd gan drydanwr cymwys, cofrestredig.

Pwy all wneud cais

Byddwn yn ystyried eich cais os yw'n bodloni'r meini prawf canlynol:

  1. Rydych yn berchen ar gerbyd trydan y mae angen ei wefru (er enghraifft cerbyd trydan â batri, cerbyd hybrid plygio i mewn) ac nid oes gennych fynediad at le parcio oddi ar y stryd.
  2. Rydych yn byw yn Abertawe - gwirio'r ffiniau ar gyfer Cyngor Abertawe.
  3. Chi yw perchennog yr eiddo neu gallwch ddarparu caniatâd ysgrifenedig gan berchennog yr eiddo.
  4. Gallwch barcio'n hyderus y tu allan i'ch eiddo o leiaf ddwywaith yr wythnos.
  5. Gallwch sicrhau yswiriant atebolrwydd (drwy eich yswiriant car neu gartref) i dalu am unrhyw atebolrwydd cyfreithiol posib a all godi. Bydd angen copi o hwn os ydych yn cael eich derbyn ar gyfer y treial.
  6. Rydych yn cytuno i ni gysylltu â chi ac i roi adborth am y treial pan fyddwn yn gofyn i chi wneud hynny yn ystod cyfnod y treial.

Byddwn ond yn derbyn ceisiadau ar gyfer safleoedd sy'n rhan o'r briffordd gyhoeddus ac sy'n cael eu rheoli gennym ni fel yr awdurdod priffyrdd.   Gallwch wirio os yw safle'n rhan o'r briffordd gyhoeddus drwy chwilio ar ein map ffyrdd a fabwysiadwyd ar-lein.

Rydym yn annog ceisiadau gan bobl sy'n ystyried bod ganddynt anabledd neu symudedd cyfyngedig.

Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf uchod, mae llawer o leoedd yn Abertawe y gallwch wefru'ch cerbyd trydan: Cerbydau trydan

Gwybodaeth ychwanegol cyn i chi wneud cais

Llun o'r safle

Bydd angen i chi lanlwytho llun clir a heb ei rwystro o'r droedffordd y tu allan i'ch eiddo pan fyddwch yn gwneud cais. Dylech dynnu'r llun o ochr arall y ffordd gan edrych yn ôl ar eich eiddo (os yw'n ddiogel i chi wneud hynny yn unig).

Trwydded sianel ar gyfer cebl gwefru 

Cyn gosod y sianel ar gyfer cebl gwefru, rhaid i gyfranogwyr sicrhau trwydded sy'n rhoi caniatâd i ni osod y sianel. Bydd amodau a thelerau safonol yn berthnasol i'r drwydded, y mae'n rhaid i gyfranogwyr gadw atynt, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gyfrifoldeb am y sianel ar gyfer cebl gwefru, defnydd o'r sianel, cynnal y sianel a bod yn atebol amdani. Rhaid i gyfranogwyr gael sicrwydd yswiriant atebolrwydd trydydd parti drwy eu hyswiriant car, eu hyswiriant cartref neu unrhyw gwmni yswiriant arbenigol i dalu am unrhyw atebolrwydd cyfreithiol posib a all godi.

Os yw'ch cais yn llwyddiannus ac mae eich safle'n addas, byddwch yn derbyn copi dros dro o'r drwydded lle bydd angen i chi nodi eich bod wedi darllen, deall a chytuno i'r amodau a thelerau. Nid yw hyn yn rhoi caniatâd cyfreithiol i chi osod sianel ar gyfer cebl gwefru, ond yn hytrach mae'n dangos eich bod yn cytuno i fod yn gyfrifol am y sianel a'i defnydd, am gynnal y sianel a bod yn atebol amdani cyn i chi gadarnhau eich bod am gymryd rhan.

Byddwn yn cadw perchnogaeth lawn am y sianel ar gyfer cebl gwefru a'r gwefrwr cerbyd trydan am hyd llawn y treial. Mae gennym yr hawl i dynnu'r drwydded a roddwyd yn ôl, heb unrhyw rybudd ymlaen llaw, os nad ydych yn cadw at yr amodau safonol, a fydd yn arwain at gael gwared ar y sianel ar gyfer cebl gwefru a'r gwefrwr cerbyd trydan.

Nid yw'r drwydded yn rhoi'r hawl i gyfranogwyr gadw'r lle parcio er mwyn defnyddio'r sianel Kerbo Charge. Bydd unrhyw drefniadau dan orfod, megis gosod arwyddion 'gwefru cerbyd trydan', conau neu debyg yn arwain at gael gwared ar y sianel ar gyfer cebl gwefru a'r gwefrwr cerbyd trydan.

Gwneud cais am y treial

Bydd ceisiadau ar agor am gyfnod cyfyngedig yn unig ac ni allwn warantu y byddwch yn cael cymryd rhan.

Gwneud cais i fod yn rhan o'r treial mannau gwefru preswyl ar y stryd ar gyfer cerbydau trydan Gwneud cais i fod yn rhan o'r treial mannau gwefru preswyl ar y stryd ar gyfer cerbydau trydan

Dyddiad cau: 11.59pm, Dydd Sul 15 Mehefin 2025

Sylwer: gall y broses ymgeisio ddod i ben yn gynnar os ydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau addas. 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd pob cais yn cael ei ystyried fesul achos a'i werthuso yn ôl ei gymhwystra yn ogystal ag addasrwydd yr eiddo neu'r safle. 

Bydd yr ymgeiswyr hynny sy'n cyrraedd y rhestr fer yn symud ymlaen i'r cam ymweliad safle, lle byddant yn derbyn cymeradwyaeth amodol i gymryd rhan yn y treial yn amodol ar ganlyniad yr arolygiad safle a chydnabyddiaeth o'r amodau a thelerau ar gyfer y drwydded sianel ar gyfer cebl gwefru.

Mae'r treial hwn yn cael ei ddarparu gan Gyngor Abertawe a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru. Mae Cyngor Abertawe'n cadw'r hawl i ganslo neu ddiwygio'r cynnig hwn a'i amodau a thelerau ar unrhyw adeg. 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses ymgeisio neu'r treial, neu os hoffech ofyn am ffurflen gais mewn fformat arall, e-bostiwch ni yn trafnidiaethdimallyriadau@abertawe.gov.uk

Gwneud cais i fod yn rhan o'r treial mannau gwefru preswyl ar y stryd ar gyfer cerbydau trydan

Rydym yn gwahodd preswylwyr nad oes ganddynt fynediad at le parcio oddi ar y stryd (megis garej neu ddreif) i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y treial a fydd yn para am gyfnod o 12 mis.

Cerbydau trydan

Gwybodaeth i breswylwyr ac ymwelwyr sy'n defnyddio cerbydau trydan.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 27 Mai 2025