Toglo gwelededd dewislen symudol

Parcio a theithio

Mae gan Abertawe ddau safle Parcio a Theithio yn Fabian Way a Glandŵr.

Mae'r safleoedd hyn yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, rhwng 7.00am a 7.00pm, ac maent yn darparu cyswllt bws rheolaidd i ganol y ddinas ac oddi yno, gan ddefnyddio cerbydau hollol hygyrch.

£2.50 yn unig yw'r gost am barcio car drwy'r dydd ac i hyd at 4 person deithio i ganol y ddinas ac oddi yno ar y bws. Sylwer, nid yw'r ffi yn cynnwys taith i Gampws y Bae ac oddi yno, sy'n ffi First Cymru ar wahân y gallwch ei thalu ar y bws.

Cynnig presennol
Talwch £1 yn unig i barcio drwy'r dydd yn ein safleoedd parcio a theithio - a hynny ar gyfer un car a hyd at bedwar teithiwr!

Mae gan yr holl safleoedd ddarpariaeth CCTV lawn. Mae'r meysydd parcio ar bob safle wedi ennill gwobr Meysydd Parcio wedi'u Diogelu.

Mae'r gwasanaeth Parcio a Theithio yn gweithredu yn Abertawe gydag arian gan Lywodraeth Cymru.

Gwasanaethau Parcio a Theithio Gŵyl y Banc

Newidiadau i wasanaethau parcio a theithio dros ŵyl y banc.

Parcio a Theithio Ffordd Fabian

Mae safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian wedi'i leoli'n gyfleus oddi ar yr A483, tua milltir i'r dwyrain o Ganol y Ddinas.

Parcio a Theithio Glandŵr

Mae Parcio a Theithio Glandŵr oddi ar yr A4067 tua milltir i'r gogledd o Ganol y Ddinas
Close Dewis iaith