Toglo gwelededd dewislen symudol

Parcio a Theithio Glandŵr

Mae Parcio a Theithio Glandŵr oddi ar yr A4067 tua milltir i'r gogledd o Ganol y Ddinas

Cynnig presennol
Talwch £1 yn unig i barcio drwy'r dydd yn ein safleoedd parcio a theithio - a hynny ar gyfer un car a hyd at bedwar teithiwr!

O Gyffordd 45 yr M4 (Ynysforgan), dilynwch arwyddion 'Abertawe' am ryw dair milltir. Mae Glandŵr yn daith 10 munud yn unig o'r M4. Mae safle Glandŵr mewn lleoliad cyfleus ar gyfer teithiau i Abertawe o Gwm Tawe, Pontsenni ac Aberhonddu.

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

Amserlen (gwasanaeth 52)

Mae bysus yn gweithredu bob 20 munud yn ystod y dydd, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn - fel arfer gyda bysus modern unllawr hygyrch, â llawr isel.

Cynhelir y gwasanaeth hwn gan First Cymru - am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â nhw'n uniongyrchol gan ddefnyddio'r manylion isod.

O Safle Parcio a Theithio Glandŵr i Orsaf Fysus Abertawe

GlandŵrGorsaf Fysus Abertawe
7.00am7.11am
7.30am7.41am
7.50am8.01am
Ac yna ar yr amserau hyn wedi'r awr:
10
30
50
Ac yna ar yr amserau hyn wedi'r awr:
21
41
01
Tan:
6.50pm
Tan:
7.01pm

O Orsaf Fysus Abertawe i Safle Parcio a Theithio Glandŵr

Gorsaf Fysus AbertaweGlandŵr
7.15am7.27am
7.35am (dim ar ddydd Sadwrn)7.47am (dim ar ddydd Sadwrn)
7.55am (dim ar ddydd Sadwrn)8.07am (dim ar ddydd Sadwrn)
Ac yna ar yr amserau hyn wedi'r awr:
15
35
55
Ac yna ar yr amserau hyn wedi'r awr:
27
47
07
Tan:
6.55pm
Tan:
7.07pm

Nid yw'r gwasanaeth yn gweithredu ar ddydd Sul nac ar wyliau banc cydnabyddedig (ac eithrio Dydd Gwener y Groglith).

Safleoedd bysus yng nghanol y ddinas (ar y ffordd i mewn)

  • Gorsaf Drenau Abertawe
  • Stryd y Berllan
  • Ffordd y Brenin (gyferbyn ag Eglwys y Bedyddwyr Mount Pleasant)
  • Gorsaf Fysus Abertawe

Safleoedd bysus yng nghanol y ddinas (ar y ffordd allan)

  • Gorsaf Drenau Abertawe
  • Sgwâr y Santes Fair
  • y Stryd Fawr (gyferbyn â'r Eglwys Undodaidd)
  • gyferbyn â'r Orsaf Drenau Abertawe

Cyfleusterau

  • Mae'r maes parcio ar agor rhwng 6.45am a 7.30pm ddydd Llun i ddydd Sadwrn
  • 495 o lefydd parcio gan gynnwys 22 o gilfannau i'r anabl; a rheseli beiciau
  • 6 lle parcio gwefru cerbyd trydan
  • CCTV
  • Ardal aros amgaeedig gyda seddi, man gwybodaeth a pheiriannau bwyd a diod
  • Toiledau, gan gynnwys cyfleusterau ar gyfer pobl anabl a chyfleusterau newid cewynnau i rieni

Gwasanaeth bws wedi'i gynnal gan

First Cymru, Heol Gwyrosydd, Pen-lan, Abertawe, SA5 7BN.
Ffôn: 01792 572255 (8.00am i 6.00pm)
Ebost: cymru.customerservices@firstgroup.com

Lleoliad

Cyfeiriad

Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm

Glandŵr

Abertawe

SA1 2JT

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps
Dim rhagor ar gael
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu