Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Parcio a Theithio Glandŵr

Mae Parcio a Theithio Glandŵr oddi ar yr A4067 tua milltir i'r gogledd o Ganol y Ddinas

Gwasanaethau Parcio a Theithio Gŵyl y Banc

Cynnig presennol
Talwch £1 yn unig i barcio drwy'r dydd yn ein safleoedd parcio a theithio - a hynny ar gyfer un car a hyd at bedwar teithiwr!

O Gyffordd 45 yr M4 (Ynysforgan), dilynwch arwyddion 'Abertawe' am ryw dair milltir. Mae Glandŵr yn daith 10 munud yn unig o'r M4. Mae safle Glandŵr mewn lleoliad cyfleus ar gyfer teithiau i Abertawe o Gwm Tawe, Pontsenni ac Aberhonddu.

Lleoliad

Parcio a Theithio Glandŵr, Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm, Glandŵr, Abertawe SA1 2JT.

Amserlen (gwasanaeth PR2)

Mae'r bysus yn rhedeg bob 20 munud yn ystod y dydd rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn. Bysus modern, â llawr isel, sy'n hawdd cael mynediad iddynt.

O Safle Parcio a Theithio Glandŵr i Orsaf Fysus Abertawe
GlandŵrGorsaf Fysus Abertawe
7.00am7.11am
7.30am7.41am
7.50am8.01am
Ac yna ar yr amserau hyn wedi'r awr:
10
30
50
Ac yna ar yr amserau hyn wedi'r awr:
21
41
01
Tan:
6.50pm
Tan:
7.01pm
O Orsaf Fysus Abertawe i Safle Parcio a Theithio Glandŵr
Gorsaf Fysus AbertaweGlandŵr
7.15am7.27am
7.35am7.47am
7.55am8.07am
Ac yna ar yr amserau hyn wedi'r awr:
15
35
55
Ac yna ar yr amserau hyn wedi'r awr:
27
47
07
Tan:
6.55pm
Tan:
7.07pm

Nid yw'r gwasanaeth yn gweithredu ar ddydd Sul nac ar wyliau banc cydnabyddedig (ac eithrio Dydd Gwener y Groglith).

Safleoedd bysus yng nghanol y ddinas (ar y ffordd i mewn)

  • Gorsaf Drenau Abertawe
  • Stryd y Berllan
  • Ffordd y Brenin (gyferbyn ag Eglwys y Bedyddwyr Mount Pleasant)
  • Gorsaf Fysus Abertawe

Safleoedd bysus yng nghanol y ddinas (ar y ffordd allan)

  • Gorsaf Drenau Abertawe
  • Sgwâr y Santes Fair
  • y Stryd Fawr (gyferbyn â'r Eglwys Undodaidd)
  • gyferbyn â'r Orsaf Drenau Abertawe

Nodweddion

  • Mae'r maes parcio ar agor rhwng 6.45am a 7.30pm ddydd Llun i ddydd Sadwrn
  • 495 o lefydd parcio gan gynnwys 22 o gilfannau i'r anabl; a rheseli beiciau
  • CCTV
  • Ardal aros amgaeedig gyda seddi, man gwybodaeth a pheiriannau bwyd a diod
  • Toiledau, gan gynnwys cyfleusterau ar gyfer pobl anabl a chyfleusterau newid cewynnau i rieni
  • Mannau gwefru cerbydau trydan

Gwasanaeth bws wedi'i gynnal gan

First, Heol Gwyrosydd, Pen-lan, Abertawe, SA5 7BN.
Ffôn: 01792 572255 (8.00am i 6.00pm)
Ebost: cymru.customerservices@firstgroup.com