Toglo gwelededd dewislen symudol

Sgowtiaid Morol Cyntaf Abertawe

Rhestr Anrhydedd

Sefydlwyd mudiad y Sgowtiaid gan Robert Baden Powell ym 1908 ac o fewn ychydig flynyddoedd, roedd lluoedd o Sgowtiaid Môr yn cael eu sefydlu fel rhan o fudiad y sgowtiaid, ond gyda phwyslais arbennig ar hyfforddiant llyngesol a gweithgareddau dŵr.

Sefydlwyd llu Abertawe, Sgowtiaid Môr Cyntaf Abertawe, ym mis Gorffennaf 1913. Yn ystod blwyddyn gyntaf gweithredu'r llu, gyda chymorth gan Gapten Heneage o Barc Le Breos, llwyddon nhw i gael gafael ar ddau fad a chynhaliwyd gwersyll hyfforddi ym mhenrhyn Gŵyr. Pan gychwynnodd y rhyfel, ymunodd llawer o feistri'r sgowtiaid a chyn sgowtiaid â'r lluoedd arfog i ymladd yn y rhyfel.

Maint Rhestr y Gwroniaid yw 55 x 75 cm. Mae'n ddyluniad amatur mewn inc a dyfrlliw ar bapur, sy'n cynnwys baner meillionen mudiad y Sgowtiaid, Baner yr Undeb a baner Lluman Gwyn y llynges.

Y 60 enw a restrir yw enwau'r dynion o'r llu a wasanaethodd yn y lluoedd arfog, a'r chwech yr amlinellir eu henwau mewn du yw'r rhai a fu farw. Ysgrifennir y rhain yn anffurfiol ac mae'n bosib iddynt gael eu hychwanegu wrth i'r rhyfel fynd yn ei flaen. Fe'i harddangoswyd yn ôl pob tebyg ym mhencadlys y llu, ond nid ydym yn sicr ynghylch hyn. Ar ryw bwynt, fe'i tynnwyd o'i ffrâm er mwyn ei storio'n ddiogel.

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [1MB](Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith