Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgol Ramadeg Abertawe

Lluniau cofeb rhyfel a rhestr anrhydedd

Sefydlwyd Ysgol Ramadeg Abertawe ym 1682 gan yr Esgob Gore ar safle yn Goat Street yng nghanol y dref. Ar ôl blynyddoedd o ddirywiad, cafodd ei hailadeiladu yn yr 1850au, adeilad trawiadol ar ben y bryn yn Mount Pleasant. Roedd gan yr ysgol amrywiaeth o enwau dros y blynyddoedd, ond yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn Ysgol Ramadeg Abertawe. Fe'i dinistriwyd gan fomio yn yr Ail Ryfel Byd a chafodd ysgol newydd ei hadeiladu yn Sgeti a'i agor ym 1952. Dyma Ysgol Esgob Gore heddiw.

Cafodd y gofeb ryfel wreiddiol ei cholli pan ddinistriwyd yr ysgol. Dadorchuddiwyd un newydd yn yr ysgol newydd ym 1957, ynghyd â chofeb ar gyfer yr Ail Ryfel Byd. Mae gennym ddwy gofeb yn yr Archifdy ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf: mae'r un cyntaf yn rhestr anrhydedd, sy'n rhestru'r cyn-ddisgyblion a'r staff a ymunodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hyn ar ffurf llyfryn argraffedig, a ddosbarthwyd fel rhifyn ychwanegol y cylchgrawn ysgol ym 1917 i gydnabod eu gwasanaeth.

Mae'r ail gofeb yn cynnwys tudalennau o ffotograffau printiedig o'r dynion o'r ysgol a fu farw yn y rhyfel. Mae'n anoddach ei roi mewn yn ei chyd-destun, ond gwyddom ei bod yn cael ei chasglu gan D. Rhys Phillips o Lyfrgell Abertawe fel rhan o'i gasgliad coffa o lenyddiaeth y Rhyfel Byd Cyntaf. Efallai mae'r hyn sy gennym ni yn broflenni ar gyfer llyfryn a gynhyrchwyd, a gall fod y rhan ohono ar goll, oherwydd bod yna 49 o luniau yn cyfanswm, tra bod cofeb yn Ysgol Esgob Gore yn rhestru 76 o enwau. Cynhwysir yn y prosiect hwn oherwydd ei fod yn cynnwys eu henwau llawn, eu rheng, ac wrth gwrs y ffotograff ei hun, sy'n wybodaeth ychwanegol nad yw wedi'i gofnodi ar y gofeb yn yr ysgol.

Lawrlwythwch fersiwn mawr o restr anrhydedd yr ysgol, 1917 (PDF) [1MB](Yn agor ffenestr newydd)

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r lluniau o gyn-ddisgyblion a farwodd yn y Rhyfel (PDF) [1MB](Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Tachwedd 2023