Toglo gwelededd dewislen symudol

Neuadd y Ddinas ym Mharc Victoria

Adeilad newydd godidog ar gyfer tref ymledol

Guildhall in Victoria Park
Daeth Abertawe'n fwrdeistref sirol ym 1889, ac estynnwyd ei ffiniau'n helaeth ym 1918. Er bod neuadd y ddinas wrth y dociau'n gain, unwaith eto nid oedd yn ddigonol at ei diben. Awgrymwyd bod angen adeilad newydd gyntaf ym 1907, ond parhaodd trafodaethau dros y degawdau nesaf. Penderfynwyd adeiladu ar ran ddwyreiniol Parc Victoria. Roedd y safle'n ddigon agos at ganol y dref, a gallai'r adeilad fod yn ganolbwynt i'r dref.

Cynhaliwyd cystadleuaeth am y cynllun a denodd ddau ar bymtheg a thrigain o gynigion. Y cynllun a ddewiswyd oedd yr un a gynigiwyd gan Percy Thomas, pensaer yn gweithio yng Nghaerdydd. Cynhaliwyd seremoni osod meini ar 4 Mai 1932, a symudodd gwaith yn ei flaen dros y ddwy flynedd nesaf. Roedd y cyngor wedi gallu gwneud cais am arian dan Ddeddf Gwaith Cymorth Diweithdra, a bu yn y sefyllfa ffodus o gael adeilad newydd godidog tra'n rhoi gwaith mawr ei angen i'w ddinasyddion ar adeg dirwasgiad economaidd.

Cynlluniodd Percy Thomas adeilad i adlewyrchu'r swyddogaethau gwahanol y bwriadwyd iddo eu cyflawni. Neuadd Brangwyn sydd ar yr ochr ogleddol, lle ar gyfer cynnull cyhoeddus ac adloniant. Mae'r de'n cynnwys swyddfeydd trefol ar gyfer busnes dyddiol llywodraeth leol. Mae'r ochr ddwyreiniol wedi'i chynllunio ar gyfer seremoni ddinesig: mae mynedfa addurnol, gyda rhes fawr o risiau'n arwain at yr ystafell gyngor a'r ystafell ddinesig. Y llysoedd barn sydd ar yr ochr orllewinol.

Y canlyniad oedd adeilad sy'n cyfuno'r dulliau clasurol a chyfoes. Mae cyfeiriadau clasurol ym mhob ffris a mowldin, yn y ffenestri, y drysau a'r nenfydau cromennog. Llinellau clir ac addurnwaith moel sydd ar y tu allan. Yn ddi-os, mae'r adeilad gorffenedig yn haeddu'r Fedal Efydd am Bensaernïaeth a roddwyd i'w bensaer gan Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain ym 1935.

Darllenwch am agor Neuadd y Ddinas ym 1934

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 19 Ebrill 2023