Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardal gadwraeth - Yr Ardal Forol (gan gynnwys Cambrian Place)

Dyddiad hysbysu: 1980, diwygiawyd ar 21.01.1998

Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 66000092850

A.O. 1:10,000 Taflen rhif: SS 69 SE

Ardal Gadwraeth rhif: CA:021

Nodiadau:

Roedd yr ardal hon, a adwaenid fel "y Twyni", yn dir comin hynafol bwrdeisiaid Abertawe, a gaewyd o dan Ddeddf Cau Townhill a'r Twyni 1762. Ar ôl i Cambrian Place, yr Ystafelloedd Cynnull, Gloucester Place ac Adelaide Street gael eu hadeiladu yn y 1810au a 1820au, daeth yr ardal yn gyrchfan ffasiynol a oedd yn adnabyddus am safon ei aer. Byddai'r Arglwyddes Beaconsfield ac uchelwyr nodedig eraill yn cadw tŷ yn ystod yr haf; roedd y regata flynyddol yn cael ei chynnal ym Mae Abertawe, roedd rasys yn cael eu cynnal ar gwrs rasys y twyni ac roedd llu o gyngherddau, dawnsfeydd ac adloniant o bob math yn cael eu cynnal yn yr Ystafelloedd Cynnull. Dyma leoliad cinio mawreddog a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 1839 i ddathlu coroni'r Frenhines Victoria, ynghyd â seremonïau dinesig eraill, gan gynnwys y brecwast dathlu pan agorwyd Rheilffordd De Cymru i Orsaf y Stryd Fawr ym 1850. Roedd pobl yr un mor lliwgar ond llai diymhongar yn byw yma:  roedd un cymeriad drwg-enwog, sef Doctor Sparadrop neu'r Barwn Spolasco, yn byw yn Adelaide Street yn y 1840au. Byddai'n marchogaeth yn aml mewn cerbyd agored wedi'i yrru gan ddyn croenddu wedi'i addurno â rhoséd.   

Daeth diwedd cyfnod ffasiynol yr ardal pan agorwyd Doc y Gogledd a Doc y De ym 1859 ac am flynyddoedd lawer amharwyd ar dwf y dref fel cyrchfan glan môr. Pan gafodd y rheilffyrdd fynediad uniongyrchol i'r warysau a'r teclynnau codi, defnyddiwyd Burrow Square fel iard bren. Tua diwedd yr oes Fictoraidd ac yn ystod yr oes Edwardaidd, adeiladwyd y rhan fwyaf o'r swyddfeydd brics a cherrig urddasol sy'n nodweddiadol o'r ardal heddiw. 

Dechreuodd Doc y De ddirywio yn y 1920au ac fe'i caewyd i forgludiant gan Ddeddf Trafnidiaeth Prydain 1969. Er bod swyddfeydd yn dal i gael eu defnyddio yn yr ardal, cafwyd y dirywiad mwyaf yn y 1960au. Mae cam cyntaf ailddatblygu Doc y De wedi rhoi bywyd newydd i lawer o adeiladau ac mae dwy siop ger môr wedi agor yn ddiweddar, gan gyfiawnhau'r penderfyniad i adfywio'r gweithgareddau morol yn yr ardal hon.  

(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 25 Chwefror 2025