Toglo gwelededd dewislen symudol

Ardaloedd cadwraeth

Ardal gadwraeth yw'r enw am ardal o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y mae'n ddymunol diogelu neu wella ei chymeriad neu ei gwedd.

Pwysleisir safon ardal benodol yn hytrach nag adeiladau unigol, er enghraifft, gall grwpiau o adeiladau, mannau agored, patrymau strydoedd neu goed i gyd fod yn elfennau pwysig sy'n rhoi naws arbennig i ardal.

Mae'n ddyletswydd ar y cyngor i nodi ardaloedd o fewn Dinas a Sir Abertawe y mae eu cymeriad yn haeddu cael ei warchod a'u dynodi'n ardaloedd cadwraeth. 

Wrth gydnabod ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, mae 31 o ardaloedd cadwraeth wedi'u dynodi yn Ninas a Sir Abertawe ar hyn o bryd. Maent yn amrywio'n fawr o ran eu cymeriad, oherwydd amrywiaeth yr anheddau a geir yn yr ardal, o bentrefi bychan megis Penrhys a Cheriton i drefi megis Treforys neu ardaloedd trefol megis Stryd y Gwynt a'r Mwmbwls.

Arweiniad i breswylwyr a pherchnogion eiddo mewn ardaloedd cadwraeth

Rydym wedi llunio nodyn arweiniol i breswylwyr a pherchnogion eiddo yn yr ardaloedd cadwraeth. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, dechreuwch drwy ddarllen y lawrlwythiad isod a chysylltwch â ni os oes angen mwy o wybodaeth arnoch. Sylwer bod gwasanaeth cyngor cyn cyflwyno cais ar gael bellach ar gyfer cynigion datblygu a chodir tâl ar wahân am hwn.

We have prepared  a guidance note for residents and owners of property in the conservation areas (PDF) [719KB]. If you have any queries, please start by reading through the download below and contact us if you need more information.  Please note that there is now a separate charged Cyngor safonol cyn cyflwyno cais cynllunio for development proposals.

Ceisiadau cynllunio mewn ardaloedd cadwraeth

Wrth ystyried cais i ddatblygu mewn ardal gadwraeth, mae gennym gyfrifoldeb i roi sylw arbennig i ddymunoldeb cadw neu wella cymeriad neu wedd yr ardal. Caiff y cais ei hysbysebu yn y papur newydd lleol ac arddangosir hysbysiad ar y safle neu gerllaw. Fel arfer, bydd yr Adran Gynllunio'n gofyn am gynlluniau manwl yn hytrach nag ymdrin â cheisiadau amlinellol, fel y gellir asesu effaith y cynigion yn drylwyr.

Wrth benderfynu a ddylid caniatáu datblygiad newydd, dylid rhoi sylw penodol i'w leoliad, ei raddfa, ei ffurf, y deunyddiau a ddefnyddir, y manylion addurnol, a'r tirweddu. Ni chaiff dyluniadau cyfoes eu gwrthod mewn ardaloedd cadwraeth o angenrheidrwydd, ond mae'n rhaid eu bod yn seiliedig ar gydymdeimlad mawr at yr ardal ac yn cydweddu'n dda â'r adeiladau a'r lleoedd o'u cwmpas. Mae rheolaethau arbennig ychwanegol yn berthnasol i adeiladau rhestredig.

Os ydych yn rhagweld ymgymryd â gwaith datblygu, addasu, neu estyn adeiladau sydd eisoes yn bodoli mewn ardaloedd cadwraeth, rydym yn eich annog i gyflogi dyluniwr profiadol ag enw da am weithio mewn amgylcheddau sensitif, ac sy'n ymwybodol o'r arddull pensaernïol cynhenid lleol, rhywun sydd ag arbenigedd yn y maes hwn a phrofiad o ofynion yr awdurdod lleol.

Gellir gwneud cais am Ganiatâd Ardal Gadwraeth yma Y porth cynllunio (Yn agor ffenestr newydd)

Datblygu nesaf at ardal gadwraeth

Bydd y cyngor yn ystyried yn ofalus a yw datblygu nesaf at ardal gadwraeth yn cadw neu'n gwella cyffiniau'r ardal ddynodedig.

Dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth

Mae angen caniatâd arbennig o'r enw Caniatâd Ardal Gadwraeth i ddymchwel neu i ddymchwel yn rhannol unrhyw adeilad, ar wahân i'r rhai lleiaf, o fewn ardaloedd cadwraeth. Felly, dylech bob amser gysylltu â'r Adran Gynllunio i ganfod a oes angen caniatâd ai peidio.

Gellir cael rhagor o gyngor ar Ganiatâd Ardal Gadwraeth drwy'r  Porth Cynllunio - Nodiadau Arweiniol ar gyfer Caniatâd Ardal Gadwraeth (PDF) [48KB].

Datblygu a ganiateir

Gellir ymgymryd â mân addasiadau ac estyniadau bach iawn i anheddau heb ganiatâd cynllunio mewn ardaloedd cadwraeth.

Mae cyfyngiadau eraill yn berthnasol ym mhob ardal gadwraeth ac mae'r cyngor wedi pennu rheolaethau cynllunio eraill o'r enw Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn yr ardaloedd cadwraeth canlynol:

  • Yr Ardal Forol 
  • Penclawdd
  • Y Mwmbwls
  • Rhosili
  • Horton
  • Porth Einon
  • Llangynydd
  • Reynoldston
  • Holt's Field

Rhoddwyd y rhain ar waith pan ddaeth yn amlwg bod addasiadau amhriodol ac anghydnaws, ynghyd a deunyddiau anaddas, yn effeithio ar wedd yr ardaloedd cadwraeth.

Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn dileu rhai o'ch hawliau ynghylch datblygu a ganiateir ac mae'n golygu bod angen cael cymeradwyaeth yr awdurdod cynllunio i wneud gwaith penodol a ddiffinnir yn y cyfarwyddyd.

Ni fydd angen talu ffi i gyflwyno ceisiadau cynllunio o'r math hwn.

Lleoliadau ardaloedd cadwraeth

Gellir gweld ffiniau holl ardaloedd cadwraeth Cymru yn MapDataCymru.

Mae manylion yr Ardal Gadwraeth yn cael eu cadw gan Gyngor Abertawe ac yn cael eu cyfieithu ar hyn o bryd. Unwaith y bydd y manylion ar gael yn ddwyieithog byddant yn cael eu hychwanegu at y wefan hon.

Am ragor o wybodaeth am ardaloedd cadwraeth, gweler wefan Cadw (Yn agor ffenestr newydd).

Adolygiad ardaloedd cadwraeth

Mae'n ddyletswydd arnom i lunio a chyhoeddi polisïau a chynigion ar gyfer cadw a gwella ardaloedd cadwraeth
Close Dewis iaith