Cyngor cyn cyflwyno cais
Cyngor cyffredinol cyn cyflwyno cais ar gyfer deiliaid tai a datblygwyr.
Mae gallu ymholi ynghylch materion cynllunio cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ystyried y materion hyn ac, os oes angen, ddiwygio'r cynigion cyn eu cwblhau a'u cyflwyno fel ceisiadau cynllunio.
Ffïoedd
Ffïoedd cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio Ffïoedd cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio
Yr hyn y byddwch yn ei dderbyn
Byddwn yn rhoi'r canlynol i chi:
- hanes cynllunio'r tir y bwriedir codi'r datblygiad arfaethedig arno, ar yr amod ei fod yn berthnasol i'r cais arfaethedig
- darpariaethau'r cynllun datblygu, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r cais arfaethedig
- unrhyw ganllawiau cynllunio atodol, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r cais arfaethedig
- unrhyw ystyriaethau eraill sydd neu a allai fod yn berthnasol ym marn yr awdurdod
- asesiad cychwynnol o'r datblygiad arfaethedig ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd dan baragraffau (a) i (ch).
Ar gyfer datblygiadau mawr, gallwn hefyd ddweud wrthych:
- a yw'n debygol y bydd goblygiadau cynllunio (o fewn yr ystyr a geir yn adran 106 Deddf (goblygiadau cynllunio) 1990 yn ofynnol, ac os felly, syniad o gwmpas tebygol goblygiadau cynllunio o'r fath, gan gynnwys syniad o unrhyw swm y gall fod angen ei dalu i'r awdurdod
- a fydd atebolrwydd i dalu Ardoll Isadeiledd Gymunedol yn debygol, ac os felly, syniad o'r swm tebygol
- manylion unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth y byddai ei hangen er mwyn i gais dilynol fod yn gais dilys.
Ffurflenni cais
Ffurflenni cyn cyflwyno cais statudol
Mae'r rhain ar gyfer ymholiadau cynllunio cyffredinol a byddant yn berthnasol i'r rhan fwyaf o ymgeiswyr.
Ffurflen Ymholi Cyn Ymgeisio Statudol - rhan 1 (Word doc) [56KB]
Ffurflen Ymholi Cyn Ymgeisio Statudol - rhan 2 (Word doc) [23KB]
Ffurflenni cyn cyflwyno cais anstatudol
Mae'r rhain ar gyfer ymholiadau cyfrinachol ac mae'n rhaid talu TAW ar ben y ffi. Mae'r cais hwn hefyd yn cynnwys cyfarfod ag un o'n swyddogion cynllunio.
Ffurflen Ymholi Cyn Ymgeisio Anstatudol - rhan 1 (Word doc) [54KB]
Ffurflen Ymholi Cyn Ymgeisio Anstatudol - rhan 2 (Word doc) [23KB]