Ardal gadwraeth - Cae Holt
Dyddiad hysbysu: Mai 1990
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 5919088430
A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 58 NE
Rhif yr ardal gadwraeth: CA:023
Nodiadau:
Mae'r ardal yn cynnwys 30 o anheddau ar arwynebedd gros o ryw 5.6 erw (2.26 ha). Mae'r safle i'r de-orllewin o Manselfield Road yn Murton.
Mae'r safle mewn coetir diarffordd yn agos at Goed yr Esgob a ffin yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol i'r de. Nid yw graddau a chymeriad yr anheddiad presennol yn amharu ar y dirwedd gyfagos o safon uchel.
Ceir mynediad drwy ffordd heb ei mabwysiadu oddi ar Manselfield Road.
Mae'r safle'n cynnig dealltwriaeth ddifyr o oes sy'n prysur ddiflannu. Er y bu llawer o enghreifftiau o'r math hwn o ddatblygiad ar ffurf lleiniau ar hyd y wlad ar un adeg, mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi diflannu neu maent wedi cael eu hailddatblygu erbyn hyn. O ganlyniad i hynny, mae rhan unigryw o etifeddiaeth adeiledig y genedl wedi cael ei cholli i raddau helaeth. Mae Cae Holt yn enghraifft brin o'r ychydig ardaloedd sydd wedi cadw eu cymeriad.
Yn lleol, mae'r safle'n bwysig gan iddo ddarparu enghraifft o sut roedd preswylwyr cyffredin y ddinas yn Abertawe am ddianc i awyr iach a llonyddwch cefn gwlad a'r arfordir. Mae hefyd yn enghraifft o ymdrech y werin i chwilio am "iwtopia" fel dewis amgen i fudiad "gardd-ddinasoedd" Ebenezer Howard.
(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)