Ardal gadwraeth - Llandeilo Ferwallt
Dyddiad cyflwyno: 05.08.1993
Cyfeirnod Grid Cenedlaethol: SS 5786089260
A.O. 1:10,000 Rhif y ddalen: SS 58 NE
Rhif yr ardal gadwraeth: CA:026
Nodiadau:
Yn hanesyddol, mae Llandeilo Ferwallt yn bwysig, am iddo fod yn perthyn cyn hynny i Esgob Llandaf, a oedd "yn berchen ar faenor eglwysig Llandeilo Ferwallt fel rhodd am ddim", tra roedd y pentrefi cyfagos yn eiddo i Arglwyddiaeth Gŵyr o gyfnod y goncwest. Hen enw Cymraeg y pentref oedd Llandeilo Ferwallt, gyda hanner olaf yr enw yn deillio o Mengualdus, a oedd, yn ôl Llyfr Llandaf, yn bennaeth neu'n abad ar fynachdy Celtaidd o'r 6ed ganrif yn Llandeilo Ferwallt.
Cyhoeddwyd "A History of Bishopston" gan Geoffrey Orrin ym 1982.
Mae nifer o adroddiadau (a ddyfynnir yn y gwaith uchod) am dopograffi Llandeilo Ferwallt ers yr Oesoedd Canol wedi goroesi.
Wedi'i nodi'n fyr, mae ei gymeriad arbennig heddiw'n cynnwys canolfan hynafol y pentref ac o gwmpas y rhyd, yr eglwys a'r hen ysgol - ar ben ei gwm coediog darluniadol - pentref o fythynnod deulawr o'r 18fed ganrif ac yn ddiweddarach, ar y llwyfandir calchfaen - y mae'r gorau ohonynt, efallai, wedi'u clystyru o gwmpas tafarn y Joiner's Arms ac i'r gogledd ar Bishopston Road oddi yno, ac ochr y llethr goediog rhyngddynt, gyda'i rwydwaith o lonydd dwfn.
(Cliciwch ar y ddelwedd i weld fersiwn mwy.)