Toglo gwelededd dewislen symudol

Arddangosiadau coginio bwyd môr ym Marchnad Abertawe

Cymerwch gip ar y ryseitiau blasus a goginiwyd yn ddyddiol.

Roedd y cogyddion a gymerodd ran yn cynnwys Shane Davies-Nilsson o Goleg Gŵyr, Abertawe, Imran Nathoo o Kitchen Clonc, a Martin Davies o'r Britannia Inn yng ngogledd Gŵyr. Roedd cogyddion eraill yn cynnwys Nerys Howells a Sian Day.

Roedd y seigiau'n cynnwys salad cig cranc ar greisionen dapioca gyda pherlysiau'r môr a gasglwyd yn lleol, tacos macrell, pei pysgod lleol, popgorn cocos halen a phupur Gŵyr a chawl cocos gyda surdoes bara lawr. Mae'r holl fwyd môr a'r cynhwysion eraill a ddefnyddiwyd yn rhai lleol ac ar gael yn y farchnad.

Mae'r rhaglen hon wedi derbyn arian gan Gronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop, a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.

Close Dewis iaith