Toglo gwelededd dewislen symudol

Arolwg boddhad tenantiaid 2025: dweud eich dweud

Hoffem glywed eich barn am y gwasanaeth tai. Mae eich barn yn bwysig iawn i ni gan ei fod yn ein helpu i barhau i wella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu.

Os oes angen yr arolwg hwn mewn fformat gwahanol arnoch e.e. Print bras e-bostiwch tai@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 635045.

Drwy gwblhau a dychwelyd ein harolwg, gallwch gael eich cynnwys mewn cystadleuaeth raffl am ddim i ennill un o dri cherdyn rhodd gwerth £100.

Sylwer, mae'r arolwg yn ddienw. Os oes gennych unrhyw broblemau yr hoffech gael cymorth gyda nhw, cysylltwch â'ch swyddfa dai ardal leol gan na fyddwn yn ymdrin ag unrhyw ymholiadau/gwynion.

Ni fydd yn cymryd llawer o amser i gwblhau'r arolwg hwn. I gael eich cynnwys yn y gystadleuaeth raffl, bydd angen i chi roi eich enw a'ch manylion cyswllt ar ddiwedd yr arolwg - bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw'n gyfrinachol ac ni chaiff ei defnyddio fel rhan o ddadansoddiad yr arolwg.

Cliciwch yma i lenwi'r arolwg ar-lein nawr

Dyddiad cau: 11.59pm, nos Sul 23 Tachwedd 2025

Ffyrdd eraill o lenwi'r arolwg:

  1. Galwch heibio'ch swyddfa dai ardal leol a gofynnwch am arolwg - gallwch hefyd gyflwyno eich ffurflen wedi'i llenwi yno.
  2. Gallwch ofyn i ni bostio un atoch - e-bostiwch tai@abertawe.gov.uk neu ffoniwch 01792 635043.
  3. Os ydych yn byw yn un o'n cynlluniau byw'n annibynnol, bydd eich Swyddog Byw'n Annibynnol yn rhoi copi i chi a bydd yn ei ddychwelyd ar eich rhan hefyd.

Amodau a thelerau

  1. Mae'r arolwg a'r gystadleuaeth ar agor i denantiaid Cyngor Abertawe yn unig.
  2. Dim ond un cais y gellir ei gyflwyno fesul tenant.
  3. Os na allwch gyflwyno'r arolwg eich hun, gallwch ofyn i berson arall wneud hynny ar eich rhan.
  4. Mae'n rhaid i ni dderbyn yr holl geisiadau cyn 11.59pm nos Sul 23 Tachwedd 2025.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag Alison Winter, Swyddog Cyfranogiad:

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 09 Hydref 2025