Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynlluniau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn mynd gerbron y Cabinet

Bydd cynlluniau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn Abertawe a chynyddu eu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith yn mynd gerbron Cabinet y cyngor yr wythnos nesaf.

Abc blocks - generic education pic

Abc blocks - generic education pic

Yn ystod yr hydref, gofynnwyd i bobl a sefydliadau ar draws y ddinas am eu barn ar Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 10 mlynedd y cyngor.

Defnyddiwyd yr adborth i ddiweddaru'r ddogfen sy'n nodi sut bydd Abertawe'n chwarae ei rhan i helpu Llywodraeth Cymru gyrraedd ei tharged o un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.

Mae Cyngor Abertawe'n bwriadu cynyddu'r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn y ddinas gan gynnwys ar gyfer plant cyn oed ysgol ac astudiaethau ôl-16 ar gyfer cyrsiau academaidd a galwedigaethol. 

Yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf mae nifer y disgyblion yn Abertawe sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi dyblu o 2,581 yn 2001 i 5,228 ar ddechrau'r llynedd. 

Cefnogwyd hyn gan agoriad tair ysgol gynradd Gymraeg pellach ac un ysgol gyfun Gymraeg ychwanegol, gan ddod â'r niferoedd i 10 a 2 yn eu tro. 

Diolch i'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, a ariennir ar y cyd gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru, mae'r swm mwyaf erioed sef £170m yn cael ei fuddsoddi ar hyn o bryd i wella adeiladau ysgolion.

Mae hyn yn cynnwys lleoedd cyfrwng Cymraeg ychwanegol sy'n cael eu creu gydag agoriad yr adeiladau newydd a gwell ar gyfer YGG Tan-y-lan ac YGG Tirdeunaw.

Mae bloc addysgu newydd a chyfleusterau chwaraeon gwell wedi'u cwblhau yn YG Gŵyr ac mae gwaith i ailfodelu rhai o'r cyfleusterau sy'n bodoli yn yr ysgol yn parhau.

Bydd ystafelloedd dosbarth ychwanegol ar gyfer YGG Bryn y Môr ac YGG y Login Fach yn dilyn a bydd y cyngor hefyd yn parhau i weithio gyda darparwyr cynnar i gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg i blant cyn oed ysgol. 

Mae'r cynllun hefyd yn nodi sut bydd y cyngor yn gweithio gyda phartneriaid i gynyddu cyfleoedd i bobl ifanc ddefnyddio'u sgiliau Cymraeg y tu allan i'r ysgol a sut bydd yn adeiladu ar y gwaith da sy'n cael ei wneud mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i addysgu'r Gymraeg.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, Robert Smith, "Hoffwn ddiolch i'r rheini a gymerodd amser i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac am roi eu barn i ni am ein cynllun 10 mlynedd a lle gellid ei wella.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i un filiwn erbyn 2050 ac mae Abertawe'n awyddus i chwarae ei rhan.

"Mae'r cynllun strategol sy'n mynd gerbron y Cabinet yn ddogfen uchelgeisiol sy'n nodi'n penderfyniad i annog mwy o ddefnydd o'r Gymraeg a sut rydym yn bwriadu cyflawni hyn."

Close Dewis iaith