Toglo gwelededd dewislen symudol

Y buddsoddiad mwyaf erioed yng ngwasanaethau'r cyngor y flwyddyn nesaf

Mae Cyngor Abertawe yn bwriadu buddsoddi miliynau'n rhagor o bunnoedd mewn gwasanaethau sy'n effeithio ar ein cymunedau bob dydd yn dilyn argyfwng COVID-19.

View of Swansea

Disgwylir i Abertawe gael £34m o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn nesaf. Yn y pedair blynedd nesaf, rhagwelir y bydd cyfanswm o oddeutu £100m yn cael ei fuddsoddi yng ngwasanaethau'r cyngor sy'n gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl bob dydd.

Dywed adroddiad am y gyllideb a aiff gerbron Cabinet y cyngor yn nes ymlaen yr wythnos hon fod disgwyl i fuddsoddiad cyffredinol gynyddu o leiaf 7% y flwyddyn nesaf, gyda rhai gwasanaethau fel addysg a gofal cymdeithasol yn cael mwy fyth.

Ar ben hynny, disgwylir i gronfa adferiad economaidd y cyngor gynyddu o £20m i £25m i roi rhagor o gefnogaeth i fusnesau a theuluoedd sy'n wynebu argyfwng costau ynni a byw o ganlyniad i'r pandemig.

Yn ogystal â hyn, dywed yr adroddiad na ddisgwylir i unrhyw swyddi gael eu colli eleni diolch i ymdrechion y cyngor i ddiogelu swyddi a gwasanaethau.

Oherwydd buddsoddiad parhaus y cyngor mewn cyfleusterau ysgol newydd sydd eisoes yn werth £150m, bydd ysgolion cynradd newydd yn agor yn y misoedd i ddod a chaiff gwaith i uwchraddio YG Gŵyr ei gwblhau hefyd.

Yn ogystal â hynny, disgwylir i Arena newydd mawr ddisgwyliedig Abertawe groesawu ei gigs cyntaf, gan ddarparu hwb gwerth miliynau o bunnoedd am flynyddoedd i ddod yng nghanol y ddinas a'r economi leol.

Ond er bod hwb Llywodraeth Cymru wedi'i groesawu gan Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, rhybuddiodd y byddai'n cymryd llawer mwy o flynyddoedd o ychwanegiadau tebyg i ddod â'r niwed a wnaed gan ddegawd o gyni Llywodraeth y DU i ben ac adfer yn llwyr o'r pandemig.

Meddai, "Er gwaethaf y pandemig, rydym yn buddsoddi'r symiau mwyaf erioed mewn gwasanaethau rheng flaen ac yn yr adferiad. Cyn bo hir, fe welwn Arena Abertawe yn agor, bydd rhagor o fuddsoddiad mewn ysgolion a bydd prosiect gwerth miliynau o bunnoedd Safon Ansawdd Tai Cymru, sydd wedi arwain at drawsnewid miloedd o gartrefi teuluol, yn cael ei gwblhau.

"Mae busnesau a chymunedau wedi wynebu amserau heriol iawn yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Fel cyngor, rydym yn dra ymwybodol o argyfwng i deuluoedd sy'n delio â biliau ynni a chostau byw cynyddol a fydd yn rhoi pwysau ar incymau ac yn arwain at fwy o ansicrwydd.

"Ein bwriad yw chwilio am ffyrdd arloesol o helpu teuluoedd a fydd yn waeth eu byd oherwydd argyfwng ynni a chostau byw.

"Rydym yn bwriadu cynyddu'n cronfa adferiad economaidd o £20m i £25m fel y gallwn gynyddu buddsoddiad mewn gwasanaethau amlwg y mae pobl yn eu gweld bob dydd, sy'n amrywio o atgyweirio tyllau yn y ffordd i fynd i'r afael â graffiti, taflu sbwriel, chwyn a'r problemau cymunedol hynny y mae preswylwyr am i ni eu datrys.

"Rhoddir cefnogaeth ac arian ychwanegol hefyd i'r sectorau addysg a gofal cymdeithasol sydd wedi wynebu pwysau mawr yn sgîl COVID-19."

Disgwylir i Gabinet y cyngor weld yr adroddiad am y gyllideb ddrafft yn ei gyfarfod ar 20 Ionawr. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn ac ystyrir adborth gan y Cabinet ar 18 Chwefror cyn i'r gyllideb derfynol gael ei chyflwyno i'r Cyngor Llawn ar 3 Mawrth.

Ni wnaed penderfyniad eto ar lefel treth y cyngor am y flwyddyn nesaf a bydd hyn yn rhan o'r ymgynghoriad. Fodd bynnag, mae'r swm a gesglir gan Abertawe drwy dreth y cyngor gyfwerth â'r hyn y mae'n ei wario ar wasanaethau cymdeithasol.

Meddai'r Cyng. Stewart, "Y flwyddyn nesaf, byddwn yn buddsoddi £1.8 miliwn bob dydd ar gyfartaledd mewn gwasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl."

 

 

Close Dewis iaith