Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithdy Ystafell Ddosbarth TG i ddechreuwyr a'r rheini sydd am wella'u sgiliau [Dydd Mawrth 9.30am-11.30am] - DL042425.AH

Dydd Mawrth 4 Mehefin 2024
Amser dechrau 09:30
11:30

Sylwch mae'r cwrs hwn yn rhedeg 10 wythnos o'r dyddiau dechrau. Byddwch yn ymuno â'r cwrs yn hwyr os wnewch chi gofrestru arôl y dyddiad hon. Croeso i ddysgwyr newydd os mae lefydd dal ar gael i fwcio arnynt.

Hyd - 7 wythnos 

Bydd y gweithdy wyneb-i-wyneb hwn yn yr ystafell ddosbarth yn darparu cyfleoedd dysgu grŵp, yn seiliedig ar ddetholiad o bynciau a phroblemau TG a ddewisir o fewn y grŵp. Disgwylir i fyfyrwyr ymarfer yr hyn y maent wedi'i ddysgu rhwng sesiynau ac weithiau gellir gosod tasgau iddynt i gynorthwyo eu dysgu.

Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Gweithredu a chynnal cyfrifiaduron.
  • Diogelwch Rhyngrwyd a PC.
  • Defnyddio pecynnau Microsoft Office.
  • Pori a chwilio'r Rhyngrwyd.
  • Cadw tŷ PC, rheoli ffeiliau a ffolderi.
  • Sefydlu a defnyddio cyfrifon e-bost.
  • Gwahanol fathau o ddogfennau a fformatau ffeil (er enghraifft, PDF, DOC, TRF).

Gellir nodi anghenion dysgu y cytunwyd arnynt mewn grwpiau yn ystod y gweithdai a rhoddir sylw i'r rhain, lle bo hynny'n bosibl, yn ystod y sesiynau.

Mae'r gweithdy hwn yn cael ei redeg fel gweithdy wyneb-i-wyneb yn yr ystafell ddosbarth.

Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.

Fformat dysgu: Wyneb-i-wyneb.

Côd y cwrs: DL042425.AH

Canolfan Gymunedol Parc Montana

Montana Place

Glandŵr

Abertawe

SA1 2QB

United Kingdom

Amserau eraill ar Dydd Mawrth 4 Mehefin

Dim enghreifftiau o hyn