Addysg i oedolion - Dysgu Gydol Oes
Bydd Cofrestriadau tymor yr Haf yn agor Dydd Llun 4 Ebrill 2022. Rydym yn falch i gyhoeddi y bydd ein holl gyrsiau yn aros AM DDIM ar gyfer y tymor i ddod.
Bydd lawer o'n cyrsiau'n dychwelyd i'r ystafell ddosbarth a dysgu wyneb-i-wyneb. Bydd rhai yn parhau i fod yn ddysgu ar-lein yn unig tra bydd nifer o'n cyrsiau'n cymysgu wyneb-i-wyneb â dysgu ar-lein. Wrth edrych ar eich opsiynau cwrs, bydd y fformat yn nodi pa fath o ddosbarth sy'n cael ei gynnig.
Bydd y fwyafrif o gyrsiau arall yn cychwyn wythnos yn dechrau 25 Ebrill 2022, ac yn gorffen erbyn 8 Gorffennaf 2022.
Bydd cyrsiau Sgiliau Hanfodol a Dysgu Teulu yn cychwyn wythnos yn dechrau 25 Ebrill 2022, ac yn gorffen erbyn 8 Gorffennaf 2022. Bydd dyddiadau cychwyn cyrsiau Dysgu Teulu yn cael eu pennu trwy eich ysgol leol.
Yn gyffredinol, ni bydd cyrsiau yn rhedeg yn ystod wythnos hanner tymor (30 Mai i 3 Mehefin) oni nodir yn wahanol neu wedi'i drefnu ymlaen llaw gan y tiwtor dosbarth.
Bydd nifer y dosbarthiadau yn gyfyngedig. Ymdrinnir â phob cais ymrestru cwrs yn y drefn a dderbynnir. Mae niferoedd dosbarthiadau yn debygol o lenwi'n gyflym a bydd dysgwyr nad oeddent yn gallu cael lle yn cael eu cadw ar rhestr aros am unrhyw leoedd a allai fod ar gael.
Byddwch yn ymwybodol y gellir newid sesiynau ystafell ddosbarth 'Wyneb-i-Wyneb' i ar-lein, yn unol â chanllawiau Cofid y Llywodraeth ar adeg eu cyflwyno.
Gallwch cysylltwch â ni am fanylion pellach.
Oes angen help arnoch i fynd ar-lein? Mae ein tîm yn cynnig help i chi neu eich ffrindiau a'ch teulu i fynd ar-lein Cysylltwch â ni i ofyn am alwad yn ôl
Cyrsiau Dysgu Gydol Oes
Ffïoedd cyrsiau a chofrestru Dysgu Gydol Oes
Cyngor ac arweiniad ar addysg oedolion
Dysgu Teuluol a Sgiliau Hanfodol
Sut y bydd eich data'n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru
Tîm Dysgu Gydol Oes
- Enw
- Tîm Dysgu Gydol Oes
- E-bost
- Dysgu.gydoloes@abertawe.gov.uk
- Rhif ffôn
- 01792 637101