Cymorth i fynd ar-lein
Angen cymorth i fynd ar-lein? Gwnewch gais am alwad ac fe allwn ni eich cynorthwyo chi.
Mae'r tîm Dysgu Gydol Oes ar gael i'ch helpu chi neu eich ffrindiau a'ch teulu i fynd ar-lein. Os ydych yn ddechreuwyr sy'n dymuno cael cymorth i siopa ar-lein, neu'n rhywun sy'n dymuno lawrlwytho ap i gadw mewn cysylltiad â'r teulu, gallwn ni esbonio hynny i chi.
Llenwch y ffurflen ac fe wnaiff un ohonom ni gysylltu â chi, neu ffoniwch ni ar 01792 637101 rhwng 9.00yb a 4.30yp ar ddiwrnodau'r wythnos (ar gau ar wyliau banc).