Toglo gwelededd dewislen symudol

Dysgu Gydol Oes - Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS)

Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS) yn gweithio i ddarparu ystod eang o gyrsiau achrededig a rhai heb eu hachredu ar draws Dinas a Sir Abertawe i ddiwallu anghenion amrywiol dysgwyr.

Cydlynir darpariaeth dysgu oedolion yn Abertawe drwy Bartneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS).

Darperir y brif ddarpariaeth dysgu oedolion a ariennir gan Lywodraeth Cymru gan Wasanaeth Dysgu Gydol Oes y cyngor ac Addysg Oedolion Cymru.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn darparu rhaglen o gyrsiau i oedolion a gyflwynir gan ddefnyddio cyllid addysg bellach rhan-amser. Mae'r bartneriaeth yn dod ag ystod o sefydliadau eraill sy'n darparu cyfleoedd dysgu oedolion ynghyd, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (CGGA) a Dysgu Cymraeg - Rhanbarth Bae Abertawe.

Mae 1,639 o ddysgwyr wedi'u cofrestru ar gyrsiau Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe.

Gan weithio gyda'n gilydd i ysbrydoli a thyfu, mae gwefan y bartneriaeth Dysgu Oedolion yn siop dan yr unto i ddechrau ar eich taieth ddysgu, beth bynnag yw eich lefel neu ddiddordeb. Peidiwch ag oedi, dechreuwch heddiw! Dewch o hyd i gwrs gyda Phartneriaeth dysgu Oedolion Abertawe (Yn agor ffenestr newydd)

 

Close Dewis iaith