Trefnu blodau ar gyfer ddechreuwyr [Dydd Mawrth, 3.00pm-5.00pm] - EN042471.LG
Hyd - 10 wythnos
Mae trefnu blodau a deunyddiau planhigion yn weithgaredd hwyl, creadigol a therapiwtig sy'n gallu rhoi llawer o foddhad ac mae'n gallu gwella ein lles.
Drwy gydol y flwyddyn mae natur yn darparu deunyddiau planhigion hyfryd ar gyfer trefnu blodau sydd ar gael yn rhwydd mewn gerddi a gwrychoedd. Bydd dysgwyr yn dygu sut i ddefnyddio deunyddiau planhigion tymhorol i greu dyluniadau blodau ar gyfer y cartref ac ar gyfer digwyddiadau ac achlysuron arbennig.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau a'r technegau sylfaenol i chi greu dyluniadau cyfoes a thraddodiadol. Gan symud tuag at leihau'r ddibyniaeth ar sbwng blodau, caiff technegau traddodiadol a blaengar eu defnyddio i greu rhai trefniadau heb ddefnyddio sbwng blodau.
Mae gweithio gyda phobl eraill mewn lleoliad ystafell ddosbarth yn darparu cyfle i gwrdd â phobl newydd o'r un meddylfryd o gefndiroedd amrywiol y gallwch rannu syniadau a thrafod atebion ar gyfer dyluniadau a chanlyniadau â nhw.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Gwybodaeth am ddeunyddiau planhigion
- Sgiliau ymdrin â deunyddiau planhigion a gofalu amdanynt
- Arddulliau a thechnegau dylunio
- Cyfleoedd i fod yn greadigol
- Gweithgareddau ymarferol
Bydd dysgwyr yn derbyn y canlynol:
- Dysgu wyneb yn wyneb
- Arddangosiadau sgiliau dylunio
- Arweiniad ac adborth gan diwtoriaid
Taflenni arweiniad ar-lein (Google classroom).
Fformat dysgu: Wyneb i wyneb, gydag adnoddau ar-lein.
Côd y cwrs: EN042471.LG