Blodeuwriaeth ar gyfer Waith [Dydd Mawrth, 6.30pm-8.30pm] - EM042485.LG
Hyd - 10 wythnos
Mae trefnu bloda a deunyddiau planhigion yn weithgaredd hwyl, creadigol a therapiwtig sy'n gallu rhoi llawer o foddhad i'r gwerthwr blodau a'r cwsmer. Yn ystod y cwrs byddwch yn dysgu'r sgiliau sylfaenol y mae eu hangen arnoch i weithio mewn amgylchedd siop flodeuwriaeth.
Byddwch yn dilyn cwrs Agored Cymru a gydnabyddir gydag achrediad. Y nod a'r pwrpas bydd adnabod y deunyddiau a'r cyfarpar a dysgu am arddulliau a thechnegau dylunio a ddefnyddiwyd ym maes blodeuwriaeth. Mae gweithio gyda phobl eraill mewn lleoliad ystafell ddosbarth yn darparu cyfle i gwrdd â phobl newydd o'r un meddylfryd o gefndiroedd amrywiol y gallwch rannu syniadau a thrafod atebion ar gyfer dyluniadau a chanlyniadau â nhw.
Gan symud tuag at leihau'r ddibyniaeth ar sbwng blodau, caiff technegau traddodiadol a blaengar eu defnyddio i greu rhai trefniadau heb ddefnyddio sbwng blodau.
Bydd angen i ddysgwyr gadw portffolio sy'n cynnwys cofnod o'u haseiniadau gyda thystiolaeth ysgrifenedig i gyd-fynd â nhw. Mae'n rhaid i'r holl aseiniadau gael eu cwblhau a'u cofnodi yn y portffolio a gyflwynwyd ar gyfer yr achrediad.
Fformat dysgu: Wyneb i wyneb, gydag adnoddau ar-lein.
Côd y cwrs: EM042485.LG