Toglo gwelededd dewislen symudol

Placiau glas yn canmol cyfansoddwyr Calon Lân

Mae cyfraniad cyfansoddwyr un o anthemau rygbi enwocaf Cymru i ddiwylliant y wlad wedi'i anrhydeddu gyda phlaciau glas yn eu dinas enedigol, Abertawe.

calon lan plaque

Cyhoeddwyd Calon Lân ym 1892, ysgrifennwyd y geiriau gan Daniel James yn y 1890au a rhoddwyd y geiriau ar gân gan John Hughes, yr oedd y ddau ohonynt yn byw yn Abertawe.

Bellach, gosodwyd placiau glas ar ddau gapel lleol sy'n gysylltiedig â'r pâr i goffau emyn sy'n cael ei ganu'n rheolaidd mewn gemau rygbi rhyngwladol yn ogystal â mewn eglwysi, ysgolion a lleoliadau eraill ar draws y wlad.

Yn fwy diweddar, cafodd ei fabwysiadu fel anthem gan gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru, sy'n bwriadu chwarae am le yng Nghwpan y Byd yn gynnar y mis nesaf.

Dadorchuddiwyd y plac cyntaf yng Nghapel y Bedyddwyr Cymraeg Caersalem Newydd, Treboeth, i goffáu ei gysylltiad â John Hughes sydd wedi ei gladdu yn y fynwent yno. Gosodwyd yr ail blac glas ar hen Gapel Mynydd-bach, sef Canolfan Calon Lân bellach, i goffáu Daniel James sydd wedi ei gladdu yn y fynwent gerllaw.

Ar ôl dadorchuddio'r ail blac, bu plant o Ysgol Gynradd Gwyrosydd gerllaw yn canu Calon Lân yng Nghanolfan Calon Lân i ddathlu'r digwyddiad.

Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, oedd yn gyfrifol am ddadorchuddio'r placiau, a dywedodd ei fod yn anrhydedd aruthrol.

Meddai, "Mae Calon Lân yn un o emynau enwocaf Cymru, sy'n cael ei adnabod ar draws y byd ble bynnag y mae Cymry. Gellir dadlau mai dim ond yr anthem genedlaethol sy'n fwy adnabyddus.

"Mae'n gampwaith a phan rydym yn ei chanu, mae'n un o'r anthemau hynny sy'n dod â ni at ein gilydd fel cenedl. Nid yw ond yn deg bod y ddau berson o Abertawe a'i cyfansoddodd yn cael eu coffáu â phlaciau glas yn agos at eu mannau gorffwys terfynol."

Ganwyd John Hughes 150 mlynedd yn ôl ym 1872, a gweithiodd ar hyd ei yrfa i waith dur Dyffryn yn Nhreforys, gan ddechrau fel bachgen swyddfa cyn cael ei ddyrchafu i fod yn rheolwr marchnata. Bu'n teithio'n rhyngwladol gyda'i waith, gan ddysgu chwe iaith i'w hun ar ben ei iaith frodorol, Cymraeg. 

Bu Hughes, a fu farw o waedlif yr ymennydd ym 1914, hefyd yn gwasanaethu fel organydd yng Nghapel y Bedyddwyr Cymraeg Caersalem Newydd.

Bu Daniel James, a anwyd ym 1848, yn gweithio yng ngwaith haearn Treforys ac yng ngwaith tunplat Glandŵr.

 

Mae cynllun plac glas Cyngor Abertawe yn dathlu treftadaeth wleidyddol, chwaraeon, ddiwylliannol a gwyddonol Dinas a Sir Abertawe drwy osod placiau ar adeiladau sy'n gysylltiedig â bywydau dinasyddion blaenllaw, sydd bellach wedi marw.

 

Mae'r ddau ddyn bellach yn aelodau dethol o glwb placiau glas Abertawe sydd eisoes yn cynnwys yr ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth Jessie Donaldson, y peintiwr Ceri Richards, y canwr roc Pete Ham, y swffragét Emily Phipps, y cenhadwr Griffith John, y nofelydd gothig Ann o Abertawe, y bardd Vernon Watkins, yr arloeswr radar Edward Bowen a'r fforiwr pegynol Edgar Evans.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/placiauglas am ragor o wybodaeth. 

 

Close Dewis iaith