Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Mai

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Goleuo'r ddinas yn borffor ar gyfer Jiwbilî'r Frenhines

Bydd Abertawe'n cael ei goleuo'n borffor yr wythnos nesaf fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines.

queens jubilee

Bydd tirnodau poblogaidd gan gynnwys Sgwâr y Castell, Neuadd y Ddinas, Wind Street, Stryd Rhydychen ac arena newydd Abertawe i gyd yn cael eu goleuo'n borffor, sef lliw swyddogol y Jiwbilî, ar gyfer y dathliadau pedwar diwrnod i nodi 70 mlynedd ers i Ei Mawrhydi'r Frenhines esgyn i'r orsedd.

Bydd ugeiniau o gymunedau ar draws y ddinas hefyd yn ymuno yn y dathliadau drwy arddangos baneri a chau eu ffyrdd er mwyn cynnal partïon stryd dros yr ŵyl banc pedwar diwrnod, sy'n dechrau'r wythnos nesaf.

Mae Cyngor Abertawe wedi hepgor y ffioedd cau ffyrdd ac mae dros 60 o strydoedd yn y ddinas wedi cael caniatâd i gau eu ffyrdd am y diwrnod er mwyn gallu dathlu drwy gynnal partïon stryd traddodiadol.

Mae'r cyngor hefyd yn cynnal digwyddiad goleuo ffagl i nodi'r Jiwbilî yn Neuadd y Ddinas ar 2 Mehefin, sef dyddiad y prif ddathliadau.

Mae sawl garddwest y Jiwbilî hefyd yn cael eu cynnal ym Mhlasty'r Arglwydd Faer yn ystod yr haf, fel y gall cymunedau ddod ynghyd i ddathlu 70 mlynedd ers i Ei Mawrhydi'r Frenhines esgyn i'r orsedd.

Mae Llyfrgelloedd Abertawe wedi bod yn trefnu eu dathliadau eu hunain gyda sesiynau celf a chrefft ar thema'r Jiwbilî yn cael eu cynnal dros hanner tymor.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Fel dinas, hoffem ddymuno Jiwbilî Blatinwm arbennig o bleserus i Ei Mawrhydi'r Frenhines. Dydyn ni erioed wedi dathlu Jiwbilî Blatinwm o'r blaen, felly bydd penwythnos y Jiwbilî yn nodi cyflawniad hollol newydd."

"Mae'n gyfle i gymunedau Abertawe ddod at ei gilydd a mwynhau ei gilydd, felly mae'n wych gweld bod cynifer o bobl yn bwriadu gwneud hynny gyda phartïon stryd traddodiadol a digwyddiadau eraill.

"Rydym wedi hepgor y ffioedd cau strydoedd i gefnogi partïon stryd lleol a bydd ein cynnig bysus am ddim hefyd yn gweithredu tan 7pm bob dydd dros ŵyl banc pedwar diwrnod y Jiwbilî,  fel y gall pobl deithio i ddigwyddiadau o amgylch Abertawe am ddim."

Meddai, "Fel Dinas Hyrwyddo Canopi Gwyrdd y Frenhines, rydym yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ac ysgolion ar draws y sir eleni i blannu miloedd o goed, coed chwip a choed ifanc newydd i helpu i ehangu'n canopi gwyrdd yn Abertawe ar gyfer y dyfodol.

"Byddant yn etifeddiaeth barhaus o'r flwyddyn Jiwbilî gofiadwy hon a fydd yn cael ei mwynhau gan genedlaethau'r dyfodol am flynyddoedd lawer i ddod."

Close Dewis iaith