Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth i fyfyrwyr sy'n gadael Abertawe ar ddiwedd y tymor

Mae miloedd o fyfyrwyr sy'n gadael Abertawe wedi cael cymorth ychwanegol i helpu i sicrhau na fydd sachau du wedi'u gadael yn plagio'u cymunedau.

student recycling

Mae tîm ailgylchu Cyngor Abertawe wedi bod yn gweithio'n galed i roi gwybod i fyfyrwyr pryd mae eu diwrnodau casglu gwastraff yn y cyfnod cyn diwedd y flwyddyn academaidd.

Drwy gydol mis Mehefin a mis Gorffennaf, bob dydd Mawrth a dydd Iau, mae tîm hyrwyddo ailgylchu'r cyngor wedi bod yn curo ar gannoedd o ddrysau mewn ardaloedd yn y ddinas lle mae myfyrwyr yn byw, gan gynnwys Brynmill, Uplands, Mount Pleasant a St Thomas.

Mae'r fenter 'Sortwch e'' wedi cynnwys rhoi cyngor i fyfyrwyr yn yr wythnosau cyn iddynt adael y ddinas fel y gallant gael gwared ar eu holl wastraff cartref ac osgoi gadael symiau mawr o wastraff ar y stryd.

Rhoddwyd cannoedd o roliau o sachau ailgylchu i fyfyrwyr i'w helpu i ailgylchu cymaint o'u gwastraff â phosib.

Cyn yr ymgyrch curo ar ddrysau, anfonwyd dros 1,600 o lythyrau i eiddo preswyl y gwyddys bod myfyrwyr yn byw ynddynt. Roedd y llythyr yn darparu awgrymiadau a chyngor ac yn cyfeirio'r myfyrwyr i wedudalennau myfyrwyr y cyngor, lle mae llawer o wybodaeth arall ar gael.

Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Gymunedau, "Mae llawer iawn o fyfyrwyr yn ein dinas ac maent yn helpu i greu cymunedau amrywiol.

"Pan fyddant yn gadael ein dinas ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, mae'n bwysig ein bod ni'n gefnogol ohonynt ac yn sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i adael eu cymunedau'n lân ac yn daclus.

"Bydd y rhan fwyaf ohonynt yn manteisio ar ein casgliadau gwastraff cartref wythnosol i gael gwared ar eitemau cyn iddynt adael.

"Mae ein tîm hyrwyddo ailgylchu wedi bod yn brysur iawn drwy gydol mis Mehefin, yn curo ar ddrysau aelwydydd myfyrwyr cyn ac ar ôl eu casgliadau trefnedig, i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r hyn y gallant ei roi allan i'w gasglu.

"Rydym hefyd wedi ysgrifennu at bob aelwyd myfyrwyr gan ddarparu cyngor a gwybodaeth am reoli'u gwastraff.

"Fel unrhyw gymuned yn y ddinas, bydd rhai sachau a bagiau sydd wedi'u rhoi allan i'w casglu'n anghywir ac ymdrinnir â hyn yn y ffordd arferol. Ond yn gyffredinol, rydym wedi gweld myfyrwyr yn cymryd cyfrifoldeb ac maent wedi'n helpu i gadw'r ddinas yn lân ac yn daclus."

 

 

Close Dewis iaith