Toglo gwelededd dewislen symudol

Statws y faner werdd i barciau Abertawe

Mae chwech o brif barciau Abertawe wedi ennill statws baner werdd, gan gydnabod y rôl hanfodol y maen nhw'n ei chwarae wrth hybu lles preswylwyr a gwella'r amgylchedd naturiol.

green flag

 

Mae Gerddi Clun, Gerddi Botaneg Singleton, Parc Brynmill, Parc Llewelyn, Parc Cwmdoncyn a Pharc Victoria oll wedi cadw statws y faner bwysig.

Rheolir yr holl barciau gan Gyngor Abertawe ac maent yn croesawu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Cyflwynir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Caiff y safleoedd eu hasesu yn erbyn wyth maen prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheoli amgylcheddol a chynnwys y gymuned. 

Mae parciau Abertawe'n rhai o'r 265 o barciau a mannau gwyrdd ledled Cymru i ennill y statws.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae ein dinas yn ffodus iawn o gael rhai parciau hardd iawn rydym yn falch iawn ohonynt ac yn gweithio'n galed i'w cynnal.

"Mae pob un yn darparu man lle gall teuluoedd ac ymwelwyr ymlacio, cael hwyl a mwynhau'r awyr agored. Rwyf wrth fy modd bod y lleoliadau hyn wedi'u cydnabod ar lefel genedlaethol."

Mae dwy Wobr y Faner Werdd arall hefyd wedi'u rhoi i Gampws Singleton Prifysgol Abertawe a Choedwig Cwm Penllergaer.

Mae cyfanswm o 14 o 'wobrau cymunedol' hefyd wedi'u rhoi i erddi a mannau gwyrdd cymunedol llai yn Abertawe, gan gynnwys Gardd Gymunedol Clydach, Parc Polly yn St Thomas a Pharc Coed Bach.

Ychwanegodd y Cyng. Francis-Davies, "Mae'n wych gweld nifer mawr o erddi cymunedol yn cael cydnabyddiaeth am yr hyn maen nhw'n ei gynnig i breswylwyr. Mae hyn yn bennaf oherwydd grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser eu hunain i ofalu am y mannau gwyrdd hyn a sicrhau, lle bynnag rydych chi'n byw yn Abertawe, fod rhywle gerllaw y gall teuluoedd ymweld ag ef."

Meddai Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, "Mae gan ein lleoedd gwyrdd lleol rôl hanfodol i'w chwarae wrth gysylltu ni â natur. Mae'r gwobrau hyn yn profi bod parciau a mannau tebyg Cymru yn gwneud gwaith arbennig wrth ddarparu lleoedd o safon i fynd i ymlacio a mwynhau.

"Mae'r safon sy'n ofynnol i ennill statws y Faner Werdd yn uchel iawn felly hoffwn longyfarch pob un o'r safleoedd a gydnabyddir am ddarparu cyfleusterau rhagorol drwy gydol y flwyddyn i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd."

Meddai Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus, "Mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi dangos i ni pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i'n cymunedau.

"Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein lleoedd gwyrdd, hoffwn longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol ar y safleoedd hyn. "