Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymunwch â ni ar gyfer gŵyl ar y traeth i bobl 50+ oed

Mae prynhawn o gerddoriaeth fyw a gweithgareddau am ddim a chyfleoedd i gymdeithasu ar gyfer y rheini sy'n 50+ oed yn cael ei gynnal ar draeth Abertawe ddydd Mercher (10 Awst).

Beach at the Secret in Swansea

Beach at the Secret in Swansea

Cynhelir y digwyddiad rhwng 12pm a 4pm ac mae wedi'i drefnu gan dîm Partneriaethau a Chyfranogaeth y cyngor sy'n gweithio gyda Grŵp Llywio Heneiddio'n Dda Abertawe.

Cynhelir yr ŵyl traeth ger The Secret Bar & Kitchen a bydd stondinau gwybodaeth gan lawer o wahanol grwpiau a sefydliadau i'w cael yno.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, Hayley Gwilliam, "Mae croeso i bobl ddod â phicnic a chadair gynfas gyda nhw i fwynhau'r gerddoriaeth, cymryd rhan yn y gweithgareddau os hoffent wneud hynny a mwynhau eu hunain wrth gymdeithasu a chwrdd ag eraill."

Does dim rhaid i chi gadw lle, ond os oes angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddog Partneriaethau a Chyfranogaeth Pobl Hŷn, Rhys Thomas, drwy ei e-bostio yn Rhys.Thomas@abertawe.gov.uk neu ffoniwch ef ar 07977346177.

Close Dewis iaith