Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith i uwchraddio llochesi bysus ar draws dinas Abertawe bron â dod i ben

Bydd cyfres o lochesi bysus sy'n llesol i'r amgylchedd yn cael eu gosod ar hyd prif lwybrau cludiant cyhoeddus yn Abertawe yn ddiweddarach y mis hwn.

bus stop upgrade

Caiff y 10 lloches fysus 'to gwyrdd' newydd eu lleoli ar hyd Mumbles Road, Oystermouth Road, Quay Parade, Walter Road a St Helen's Road a bydd planhigion naturiol yn tyfu arnynt sy'n gallu helpu i hidlo gronynnau llwch a chyfrannu at well ansawdd aer.

Mae'r cynlluniau ar gyfer llochesi gwyrdd yn rhan o waith cyfredol Cyngor Abertawe i uwchraddio llochesi bysus ar draws y ddinas.

Dodwyd dros 100 o lochesi bysus newydd ar draws y ddinas yn lle'r hen rai ar ôl i'r cyngor gytuno ar gontract newydd gyda Bus Shelters Ltd.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Roedd y rhan fwyaf o'n llochesi bysus yn y ddinas dros 30 mlwydd oed ac roedd angen dodi rhai newydd yn eu lle.

"Rydym bellach wedi dodi tua 100 o lochesi bysus mwy modern yn lle'r hen rai, a fydd yn para am flynyddoedd i ddod.

"Rydym hefyd wedi penderfynu cyflwyno nifer o lochesi bysus sy'n llesol i'r amgylchedd ar hyd rhai o'n llwybrau bysus prysur yn y ddinas. Bydd y dyluniad to gwyrdd yn cyfrannu at waith ehangach y cyngor i wella ansawdd aer."

Fel rhan o ymdrechion y cyngor i roi hwb i isadeiledd ymyl y ffordd ar gyfer cludiant cyhoeddus, mae wedi neilltuo £100,000 pellach i ddarparu hyd yn oed mwy o safleoedd bysus i hybu'r defnydd o gludiant cyhoeddus.

Mae'r cynlluniau diweddaraf yn dilyn ailgyflwyno'r cynnig bysus am ddim yn ddiweddar, cynnig y mae'r cyngor wedi bod yn ei gynnal drwy gydol gwyliau'r haf. Gall teuluoedd ddal bws yn Abertawe a theithio am ddim hyd at 7pm o ddydd Gwener i ddydd Llun drwy gydol gwyliau'r haf.

Ychwanegodd y Cynghorydd Stevens, "Rwy'n hyderus y bydd ein buddsoddiad yn yr isadeiledd cludiant cyhoeddus, ynghyd â darparu'r cynllun bysus am ddim yn helpu i annog teuluoedd i ddefnyddio bysus i fynd o le i le a chael haf rhagorol."

 

Close Dewis iaith