Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Llwybr cerdded a beicio newydd yn adennill hen leoliad poblogaidd ar gyfer tipio anghyfreithlon

Mae Cyngor Abertawe wedi trawsnewid ochr bryn yn y ddinas yn llwybr cerdded a beicio cyffrous a darluniadol.

the ravine

Mae'r safle a adwaenir yn lleol fel Y Ceunant, yng nghymuned Townhill, wedi'i adennill gan y llwybr newydd a ariannwyd drwy fenter Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Mae'r llwybr a rennir 1.4km sydd wedi'i amgylchynu gan goed a thirwedd werdd, yn igam-ogamu i lawr arglawdd serth, gan gysylltu Gors Avenue â Gwent Road.

Gall cerddwyr a beicwyr o bob oed deithio'n hawdd yn awr rhwng y ddwy ffordd gan osgoi prif ffyrdd a hefyd fwynhau'r golygfeydd ar draws y ddinas wrth iddynt deithio.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r llwybr hwn yn un o'r rhai mwy heriol rydym wedi'u creu. Ein nod oedd cysylltu dwy ran o'r gymuned sydd ar lefelau gwahanol iawn o ran uchder.

"Mae'n lleoliad serth ac felly rydym wedi creu llwybr igam-ogam ei natur y gall pawb ei ddefnyddio nawr.

"Yn y blynyddoedd a fu, bu'r Ceunant yn fan poblogaidd ar gyfer tipio anghyfreithlon. Gobeithio, gan ein bod bellach wedi adennill y safle a'i agor i fyny y byddwn yn gweld llai o'r math hwn o ymddygiad."

Mae'r Ceunant yn un o nifer o lwybrau cerdded a beicio a gwblhawyd yn y misoedd diweddar.

Mae rhan newydd o lwybr teithio llesol wedi'i chreu ar hyd Jersey Road, Bôn-y-maen, gan ddarparu cyswllt hanfodol i lwybrau cerdded a beiciau cyfagos, gan ei gwneud yn haws i blant gerdded a beicio i'r ysgol.

Mae llwybr pellach wedi'i greu yn Nhreforys sy'n rhedeg ar hyd afon Tawe.

Yn gynharach eleni, gwnaeth y cyngor gais llwyddiannus am dros £7 miliwn ar gyfer rhagor o lwybrau cerdded a beicio. Bydd hyn yn cynnwys llwybr 2.4k o hyd, mawr ei angen, ar draws comin Clun i gysylltu cymuned Llandeilo Ferwallt â llwybr newydd ar hyd Mayals Road ac ymlaen i lan y môr.

Ychwanegodd y Cyng. Stevens, "Unwaith eto, mae Abertawe wedi llwyddo i sicrhau cyllid pwysig rydym am ei fuddsoddi yn ein rhwydwaith trafnidiaeth yn y ddinas.

"Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn am nifer o flynyddoedd, yn creu llwybrau cerdded a beicio sy'n rhoi ffyrdd amgen i breswylwyr ac ymwelwyr deithio o gwmpas y lle, heb orfod defnyddio car.

"Yn y tymor hir, ein nod yw cael rhwydwaith o lwybrau cerdded a beicio cwbl gysylltiedig ar draws Abertawe fel y gall pob cymuned elwa o ddulliau mwy cynaliadwy o deithio o gwmpas y lle."