Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Digwyddiad recriwtio i roi hwb i gefnogaeth plant a theuluoedd

Mae Gwasanaeth Plant a Theuluoedd Cyngor Abertawe'n cynnal digwyddiad recriwtio ddydd Mercher wrth iddo chwilio am weithwyr cefnogi i gryfhau ei dimau.

Early Years Generic from Canva

Early Years Generic from Canva

Mae'r 15 swydd sy'n cael eu cynnig yn amrywio ar draws y gwasanaeth cyfan ac maent yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n frwd dros weithio gyda phlant a phobl ifanc ac sy'n mwynhau gwneud hynny.

Mae gweithwyr cefnogi'n helpu gweithwyr cymdeithasol gyda'u hachosion a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn eu cefnogi i ddarparu gwasanaethau i blant mewn angen a'u teuluoedd.

Cynhelir y digwyddiad recriwtio yng Nghanolfan Gyflogaeth Dros Dro Abertawe'n Gweithio yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant gyferbyn â HMV rhwng 10am a 2pm ar 24 Awst.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ofal Cymdeithasol, Louise Gibbard, "Mae'r rhain yn gyfleoedd cyffrous a buddiol gan y bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn elwa o well cefnogaeth, goruchwyliaeth, mentora ac arweiniad gan ymarferwyr profiadol.

"Does dim angen gradd mewn gwaith cymdeithasol ar ymgeiswyr, felly os ydych yn frwd, yn mwynhau gweithio gyda phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd er mwyn eu helpu i wella'u sgiliau a'u cryfderau, yna efallai mai dyma'r swydd berffaith i chi."

Mae croeso i unrhyw un na all fynd i'r digwyddiad recriwtio gysylltu â'r tîm yn uniongyrchol trwy e-bostio Naomi Rowe yn naomi.rowe@abertawe.gov.uk.

Gellir dod o hyd i'r hysbysiadau recriwtio yn: www.abertawe.gov.uk/swyddi 

Close Dewis iaith