Toglo gwelededd dewislen symudol

Hen linell reilffordd yn cael ei thrawsnewid yn llwybr cerdded a beicio newydd

Mae plant ysgol a grwpiau beicio lleol wedi helpu i agor llwybr cerdded a beicio newydd sbon yn Abertawe.

Mae Cyngor Abertawe newydd orffen ei ychwanegiad diweddaraf at rwydwaith cynyddol o lwybrau cerdded a beicio'r ddinas - y tro yma, drwy ddefnyddio hen linell reilffordd sy'n rhedeg rhwng Pengelli a Phontarddulais.

Ariennir y cynllun drwy raglen Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a'i nod yw darparu llwybr sydd oddi ar y ffordd yn gyfan gwbl o Bontarddulais yng ngogledd Abertawe, yr holl ffordd i fae Abertawe.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae'r llinell reilffordd wedi diflannu ers tro ac mae'r llwybr wedi'i orchuddio â thyfiant ac yn anhygyrch i'r cyhoedd.

"Mae'r ychwanegiad diweddaraf hwn at ein rhwydwaith cerdded a beicio wedi'n galluogi i ailagor y llwybr hwn a darparu llwybr oddi ar y ffordd gwych y gall pawb ei fwynhau."

Ymunodd yr elusen feicio - Sustrans Cymru - â'r cyngor a phlant o ysgolion lleol i ddathlu agoriad y llwybr.

Meddai Patrick Williams, Pennaeth Lleoedd Iachach, "Mae Sustrans Cymru yn croesawu'r llwybr teithio llesol newydd hwn a fydd yn gwasanaethu pobl Pontarddulais a'r ardal gyfagos.

"Mae o ganlyniad i waith pwysig, gwych a wnaed gan Gyngor Abertawe a'u Tîm Trafnidiaeth ymroddedig ac edrychwn ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth â hwy i'w gwneud yn haws i bobl gerdded, mynd ar olwynion a beicio.

Mae teithio llesol yn arwain at fywydau iachach a hapusach, felly mae cyflwyno isadeiledd newydd sy'n cefnogi ac yn annog hynny ledled Cymru yn rhywbeth cadarnhaol."

Yn gynharach yn y flwyddyn, derbyniodd y cyngor ei setliad Teithio Llesol diweddaraf gan LlC, gan wneud cais llwyddiannus am dros £7 miliwn a gaiff ei fuddsoddi mewn rhagor o lwybrau cerdded a beicio yn Abertawe.

Mae llwybr newydd 2.4km ar draws Comin Clun a fydd yn cysylltu pentref Llandeilo Ferwallt â llwybr cerdded a beicio newydd ei gwblhau ar Mayals Road wedi'i gynnwys yn y cynlluniau.

Caiff llwybrau newydd hefyd eu datblygu yng ngogledd y ddinas, gan gynnwys llwybr newydd 2.8km rhwng Penllergaer a Fforest-fach. Datblygwyd y llwybr a rennir oddi ar y ffordd, 3 metr o led ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Penllergaer. Bydd y llwybr newydd yn cysylltu â rhan bresennol o isadeiledd cerdded a beicio a adeiladwyd yn flaenorol ar hyd yr A48 a bydd yn darparu cysylltiad newydd i'r de â Melin Cadle.

Ychwanegodd y Cynghorydd Stevens, "Unwaith eto, mae Abertawe wedi llwyddo i sicrhau cyllid pwysig rydym am ei fuddsoddi yn ein rhwydwaith trafnidiaeth yn y ddinas.

"Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn am nifer o flynyddoedd, yn creu llwybrau cerdded a beicio newydd sy'n rhoi ffyrdd amgen i breswylwyr ac ymwelwyr deithio o gwmpas y lle, heb orfod defnyddio car.