Toglo gwelededd dewislen symudol

Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yn cael effaith gadarnhaol mewn cymunedau

Y gaeaf hwn bydd rhwydwaith Abertawe o gydlynwyr ardaloedd lleol yn parhau i weithio ar draws holl gymunedau Abertawe a gallant gerdded gydag unrhyw un sy'n teimlo'n ynysig neu'n wynebu heriau.

Local area coordinators Donna Kendall & Cerri Goodfellow

Local area coordinators Donna Kendall & Cerri Goodfellow

Mae Cydlynu Ardaloedd Lleol wedi bod yn llwyddiant ysgubol ers ei gyflwyno gyntaf gan Gyngor Abertawe mewn tair ward yn y ddinas yn 2015.

Ers hynny mae'r cynllun wedi'i ehangu ac nawr mae Cydlynwyr Ardaloedd Lleol yn gwasanaethu pob ward yn Abertawe.

Maent yn gweithio gyda chymunedau ac unigolion i gefnogi'r rheini sy'n wynebu heriau, fel nad yw eu sefyllfa'n gwaethygu i bwynt lle mae angen ymyriad y gwasanaethau iechyd neu gymdeithasol.

I gael gwybodaeth am y Cydlynydd Ardal Leol yn eich ardal chi, ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/cydlynuardalleol

Meddai Hayley Gwilliam, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gefnogi Cymunedau, "Ni oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i dreialu Cydlynu Ardaloedd Lleol ac rydym wedi gweld y gwahaniaeth mawr mae'n ei wneud er gwell, gan drawsnewid bywydau pobl drwy eu cefnogi a'u helpu i nodi eu cryfderau a magu eu hyder. 

"Bob wythnos rydw i'n clywed straeon am sut maent wedi newid bywydau pobl.

"Mae ganddynt frîff eang, sy'n cynnwys helpu pobl i ddatblygu sgiliau a syniadau i osgoi unrhyw argyfyngau trwy ddod o hyd i atebion ymarferol i broblemau pob dydd.

"Rhan allweddol o'u rôl yw gofalu am bobl a allai fod yn unig neu'n ynysig a'u helpu i ddod o hyd i'w cryfderau yn eu bywydau ac yn y gymuned er mwyn atal yr angen am ymyrraeth gan y gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau eraill.

"Ein huchelgais oedd bod pob cymuned yn Abertawe yn elwa o gydlynydd ardal leol ac rwyf wrth fy modd ein bod bellach wedi cyflawni hyn."