Toglo gwelededd dewislen symudol

Tîm Anghenion Synhwyraidd

Mae'r Tîm Anghenion Synhwyraidd yno i gefnogi plant / pobl ifanc sydd ag angen ychwanegol.

Maent yn cefnogi plant / pobl ifanc sydd â'r cyflyrau canlynol:

  • Dysgwyr B/byddar
  • Nam ar y golwg
  • Cymhwysiad - cefnogaeth a hyfforddiant i blant a phobl ifanc sydd â nam ar y golwg.

Pwy sy'n gweithio yn y tîm?

Mae'r tîm yn cynnwys athrawon arbenigol a chynorthwywyr addysgu arbenigol sy'n rhoi cefnogaeth i ddisgyblion. Mae hyfforddiant, cefnogaeth a chyngor hefyd yn cael eu rhannu rhwng ysgolion a rhieni.

Sut fyddan nhw'n cefnogi fy mhlentyn / person ifanc?

Mae arbenigwyr yn cynnig cyngor ac arweiniad i blant / bobl ifanc, teuluoedd ac ysgolion ar faterion hygyrchedd. Mae canran uchel o blant / bobl ifanc sy'n derbyn y gwasanaeth hwn yn cael eu cefnogi mewn ysgol prif ffrwd.

Sut mae fy mhlentyn / person ifanc yn cael mynediad at y tîm?

Bydd angen i chi siarad ag athro dosbarth eich plentyn / person ifanc neu'r CADY. Byddant yn gallu gwrando ar eich pryderon a phenderfynu ar y camau nesaf.

Close Dewis iaith