Garddio i ddechreuwyr - [Dydd Mercher, 10.00am - 12.00pm] - EN042496.CF
Mae'r gweithdy hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn garddio ac sydd am ddysgu am y camau y mae angen eu cymryd i dyfu eich blodau a'ch planhigion eich hun. Gallwch fod yn ddechreuwr pur neu rywun sydd am gael gwybodaeth ychwanegol yn y maes hwn.
Bydd ein tiwtor cyfeillgar yn eich arwain trwy brosiectau bach, gan roi argymhellion a chyngor i chi yn ystod y chwe sesiwn. Byddwn yn dangos i chi sut i wneud y mwyaf o'ch mannau gwyrdd, boed yn ardd, yn falconi neu'n flwch ffenestr
Bydd elfennau'r gweithdy hwn yn cynnwys:
- Sut i blannu - dyfnder, dwysedd ac amserlen
- Basgedi crog
- Plannu cydymaith ac mewn lleoedd bach
- Chwynnu - beth, pryd, sut
- Crefft dyfrio
- Adeiladu eich dysgl plannu eich hun
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Dysgu wyneb yn wyneb.
- Hyfforddiant, offer, menig, planhigion, hadau.