Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynwent Ystumllwynarth

Mae Mynwent Ystumllwynarth yn cwmpasu oddeutu 28 erw yn ardal y Mwmbwls o'r ddinas, ac fe'i hagorwyd ar gyfer claddedigaethau ym 1883.

  • Mae beddau newydd ar gael er mwyn claddu eirch, ac yn ogystal, gellir ailagor beddau teuluol sydd eisoes yno (yn amodol ar ddyfnder).
  • Gellir claddu llwch mewn lleiniau briciau/pridd newydd a hefyd mewn beddau teulu presennol.
  • Gellir gwasgaru llwch ar feddau teuluol presennol neu mewn gerddi dynodedig.
  • Mae adran claddedigaethau coetir hefyd sy'n darparu beddau newydd ar gyfer claddu eirch a llwch.
  • Mae'r gwasanaethau ar gael rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn am gyfnodau o 30 munud.

Seiri meini coffa sy'n gysylltiedig â chynllun Cofrestr Seiri Meini Coffa Achrededig Prydain (BRAMM) yn unig sy'n gallu codi cerrig coffa. caniateir cerrig coffa lawnt ar unrhyw fedd; fodd bynnag, gellir codi cerrig coffa ag ymylfeini ar feddau yn y rhannau traddodiadol.

Oriau agor

Nid oes cyfyngiadau ar fynediad i gerddwyr; fodd bynnag, caniateir cerbydau yn ystod yr oriau canlynol yn unig:

  • Dydd Llun i ddydd Iau rhwng 9.00am - 4.30pm 
  • Dydd Gwener rhwng 9.00am - 4.00pm 
  • Penwythnosau a Gwyliau Banc rhwng 10.00am - 4.00pm

Rhaid i yrwyr yrru'n araf a dangos gofal dyladwy i unrhyw gerddwyr yn y fynwent.

Mynd â chŵn am dro

Caniateir cŵn yn y fynwent ond mae'n rhaid eu cadw ar dennyn a dan reolaeth bob amser; mae'n rhaid i berchnogion cŵn ddangos parch ac ystyriaeth i ymwelwyr eraill drwy gadw at y llwybrau a pheidio â cherdded ar feddau a gerddi coffa gyda'u cŵn; mae'n rhaid codi unrhyw faw cŵn ar unwaith a'i roi yn y biniau a ddarperir. Gall goruchwyliwr y fynwent wrthod mynediad i dir y fynwent os na chydymffurfir â'r amodau hyn.

Teithio i Fynwent Ystumllwynarth

Côd Post - SA3 4SW

Teithio mewn car - O ganol dinas Abertawe/yr A4067 Heol Ystumllwynarth. Dilynwch yr arwyddion am y Mwmbwls a pharhewch ar Heol Ystumllwynarth am 4 milltir gan fynd yn syth ymlaen wrth y cylchfan yn West Cross. Wrth gyrraedd y Mwmbwls, trowch i'r dde wrth y cylchfan bach (tafarn y White Rose) ac ewch i fyny Heol Newton tuag at Gastell Ystumllwynarth. Arhoswch ar Heol Newton am oddeutu hanner milltir gan fynd heibio'r goleuadau traffig. Mae'r arwydd ar gyfer y fynedfa i Fynwent Ystumllwynarth ar y chwith, yn union gyferbyn â gatiau'r fynwent, sydd ar y dde.

Teithio ar fws - Mae'r fynwent yn agos i lwybr bysus ac mae'r gwasanaeth yn mynd bob awr o Orsaf Fysus Cwadrant Abertawe i Fae Limeslade.

Teithio ar drên - Yr orsaf agosaf yw Gorsaf Abertawe ar y Stryd Fawr. Gellir cael bysus a thacsis o flaen yr orsaf. Mae'n cymryd tua 20 munud i yrru i Fynwent Ystumllwynarth.

Mynwent Ystumllwynarth

Enw
Mynwent Ystumllwynarth
Rhif ffôn symudol
07980 721559
Close Dewis iaith