Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynwent Coed Gwilym

Mae mynwent Coed Gwilym yng Nghlydach. Mae cofnodion claddu ar gyfer y fynwent ar gael sy'n dyddio o 8 Ebrill 1920.

Gellir trefnu claddedigaethau ag eirch mewn beddau newydd yn adrannau 3 a 4 a hefyd mewn beddau teulu presennol (yn amodol ar ddyfnder). Mae'r gwasanaethau ar gael rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn am gyfnodau o 30 munud.

Gellir claddu gweddillion a amlosgwyd mewn lleiniau briciau/pridd newydd a hefyd mewn beddau teulu presennol; gellir gwasgaru gweddillion a amlosgwyd ar feddau teulu presennol hefyd neu yn yr Ardd Goffa ganolog.

Seiri meini coffa sy'n gysylltiedig â chynllun Cofrestr Seiri Meini Coffa Achrededig Prydain (BRAMM) yn unig sy'n gallu codi cerrig coffa. Gellir codi cerrig coffa lawnt ac ymylfeini ar unrhyw fedd (yn amodol ar reoliadau), ac eithrio adran 4, sydd ar gyfer cerrig coffa lawnt yn unig.

Oriau agor

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar fynediad i gerddwyr; fodd bynnag, ceir mynediad i gerbydau yn ystod yr oriau canlynol:

  • Dydd Llun i ddydd Iau rhwng 9.00am a 4.30pm 
  • Dydd Gwener rhwng 9.00am a 4.00pm 
  • Penwythnosau a Gwyliau Banc rhwng 10.00am a 4.00pm

Rhaid i yrwyr yrru'n araf a dangos pob gofal at gerddwyr yn y fynwent.

Cerdded cŵn

Caniateir cŵn yn y fynwent ond mae'n rhaid eu cadw ar dennyn a dan reolaeth bob amser; mae'n rhaid i berchnogion cŵn ddangos parch tuag at ymwelwyr eraill drwy gadw at y llwybrau a pheidio â cherdded ar feddau a gerddi coffa gyda'u cŵn; mae'n rhaid codi unrhyw faw cŵn ar unwaith a'i roi yn y biniau a ddarperir. Gall goruchwyliwr y fynwent wrthod mynediad i dir y fynwent os na chydymffurfir â'r amodau hyn.

Teithio i Fynwent Coed Gwilym

Côd Post: SA6 5PB

Teithio mewn car - Gadewch yr M4 wrth gyffordd 45 ac ewch i'r gogledd ar yr A4067 tuag at Bontardawe. Parhewch ar y ffordd hon am oddeutu 1½ filltir. Wrth y cylchfan, cymerwch y troad cyntaf i'r chwith tuag at Glydach. Wrth y cylchfan bach, trowch i'r dde tuag at Bontardawe ar y B4063. Mae mynwent Coed Gwilym oddeutu milltir i fyny'r ffordd ar yr ochr dde.

Teithio ar y bws - Mae'r fynwent ar brif lwybr bws ac mae'r safle'n agos at y prif fynediad. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu o Orsaf Fysus y Cwadrant Abertawe i Ystradgynlais oddeutu pob hanner awr.

Teithio ar drên - Yr orsaf agosaf yw Gorsaf Abertawe ar y Stryd Fawr.  Gellir cael bysus a thacsis o flaen yr orsaf. Mae'n cymryd oddeutu 20 munud i yrru i fynwent Coed Gwilym.

Close Dewis iaith