Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mynwent Rhydgoch

Mae mynwent Rhydgoch i'r de o Bontarddulais mewn ardal lled-wledig. Mae cofnodion claddu ar gael ar gyfer pob claddedigaeth o 1907.

Gellir trefnu claddedigaethau ag eirch mewn beddau newydd ac mewn beddau teulu presennol (yn amodol ar ddyfnder). Mae'r gwasanaethau ar gael rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn am gyfnodau o 30 munud.

Gellir claddu gweddillion a amlosgwyd mewn lleiniau briciau/pridd newydd a hefyd mewn beddau teulu presennol; gellir gwasgaru gweddillion a amlosgwyd ar feddau teulu presennol hefyd neu yn yr Ardd Goffa ganolog.

Seiri meini coffa sy'n gysylltiedig â chynllun Cofrestr Seiri Meini Coffa Achrededig Prydain (BRAMM) yn unig sy'n gallu codi cerrig coffa. Gellir codi cerrig coffa lawnt ac ymylfeini ar unrhyw fedd (yn amodol ar reoliadau).

Oriau agor

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar fynediad i gerddwyr; fodd bynnag, ceir mynediad i gerbydau yn ystod yr oriau canlynol:

  • Dydd Llun i ddydd Iau rhwng 9.00am a 4.15pm 
  • Dydd Gwener rhwng 9.00am a 3.45pm 
  • Penwythnosau a Gwyliau Banc rhwng 10.00am a 4.00pm

Rhaid i yrwyr yrru'n araf a dangos pob gofal at gerddwyr yn y fynwent.

Cerdded cŵn

Caniateir cŵn yn y fynwent ond mae'n rhaid eu cadw ar dennyn a dan reolaeth bob amser; mae'n rhaid i berchnogion cŵn ddangos parch tuag at ymwelwyr eraill drwy gadw at y llwybrau a pheidio â cherdded ar feddau a gerddi coffa gyda'u cŵn; mae'n rhaid codi unrhyw faw cŵn ar unwaith a'i roi yn y biniau a ddarperir. Gall goruchwyliwr y fynwent wrthod mynediad i dir y fynwent os na chydymffurfir â'r amodau hyn.

Teithio i Fynwent Rhydgoch

Côd post: SA4 8HR

Teithio mewn car - O gyffordd 48 yr M4, ewch i'r dde ar yr A4138/Heol Iscoed tuag at Bontarddulais. Yn y cylchfan bach (ger Tafarn y Ceffyl Du) trowch i'r dde i fynd ar yr A48 tuag at Bontarddulais. Parhewch yn syth i lawr Stryd y Dŵr. Ewch yn eich blaen gan ddilyn y system un ffordd a chymerwch y lôn ar yr ochr dde tuag at Abertawe a Chanol Tref Pontarddulais ar Heol Dulais. Dilynwch y ffordd tua'r chwith tuag at Gorseinon ac ymlaen i Heol Teilo Sant. Ar gyffordd (y King Hotel) trowch i'r dde i fynd ar y B4296/Heol y Pentre tuag at Gorseinon. Parhewch i lawr Heol y Pentre am oddeutu hanner milltir ac mae'r fynedfa i'r fynwent ar yr ochr chwith.

O Abertawe, ewch i'r gogledd ar yr A483/Heol Caerfyrddin tuag at yr M4. Wrth gyffordd 45 cymerwch y troad cyntaf i'r chwith i ddilyn yr A48 tuag at Gorseinon. Wrth y cylchfan nesaf, trowch i'r dde, i'r A48/Heol Pontarddulais tuag at Dircoed a Phontlliw. Parhewch drwy Bontlliw tuag at Bontarddulais. Pan fyddwch ym Mhontarddulais parhewch yn syth yn eich blaen nes i chi gyrraedd y goleuadau traffig ger y King Hotel. Trowch i'r chwith i ddilyn y B4296 ar Heol y Pentre. Parhewch i lawr Heol y Pentre am oddeutu hanner milltir ac mae'r fynedfa i'r fynwent ar yr ochr chwith.

Teithio ar y bws - Mae'r fynwent ger llwybr bws ac mae safle bws ychydig heibio'r fynwent; mae gwasanaeth yn gweithredu bob awr o Orsaf Fysus y Cwadrant Abertawe i Bontarddulais a Llanelli.

Teithio ar drên - Yr orsaf agosaf yw Gorsaf Abertawe ar y Stryd Fawr.  Gellir cael bysus a thacsis o flaen yr orsaf. Mae'n cymryd oddeutu 30 munud i yrru o Abertawe i Fynwent Rhydgoch. Mae gorsaf drenau leol ym Mhontarddulais hefyd. Mae bysus yn gadael o fan ger yr orsaf ac mae Mynwent Rhydgoch oddeutu 5 munud o Bontarddulais mewn car.

Mynwent Rhydgoch

Enw
Mynwent Rhydgoch
Rhif ffôn symudol
07980 721561
Close Dewis iaith