Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynwent Pontybrenin

Mae Mynwent Pontybrenin ar ymyl Gorseinon. Mae cofnodion claddu ar gyfer y fynwent ar gael o 2 Ebrill 1935.

Gellir trefnu claddedigaethau mewn eirch mewn beddau newydd yn adran B (Catholig) ac adran N (pob ffydd) ac mae claddedigaethau naturiol ar gael yn adran y ddôl. Gellir trefnu claddedigaethau hefyd mewn beddau teulu sy'n bodoli eisoes (yn amodol ar ddyfnder). Gwasanaethau ar gael o ddydd Llun i ddydd Sadwrn am gyfnodau o 30 munud.

Gellir claddu gweddillion a amlosgwyd mewn lleiniau briciau/pridd newydd a hefyd mewn beddau teulu presennol; gellir gwasgaru gweddillion a amlosgwyd ar feddau teulu presennol hefyd neu yn yr Ardd Goffa ganolog.

Seiri meini coffa sy'n gysylltiedig â chynllun Cofrestr Seiri Meini Coffa Achrededig Prydain (BRAMM) yn unig sy'n gallu codi cerrig coffa. Gellir codi cerrig coffa lawnt ac ymylfeini ar unrhyw fedd (yn amodol ar reoliadau), ac eithrio adrannau L, M ac N, sydd ar gyfer cerrig coffa lawnt yn unig.

Oriau agor

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar fynediad i gerddwyr; fodd bynnag, ceir mynediad i gerbydau yn ystod yr oriau canlynol:

  • Dydd Llun i ddydd Iau rhwng 9.00am a 4.15pm 
  • Dydd Gwener rhwng 9.00am a 3.45pm 
  • Penwythnosau a Gwyliau Banc rhwng 10.00am a 4.00pm

Rhaid i yrwyr yrru'n araf a dangos pob gofal at gerddwyr yn y fynwent.

Cerdded cŵn

Caniateir cŵn yn y fynwent ond mae'n rhaid eu cadw ar dennyn a dan reolaeth bob amser; mae'n rhaid i berchnogion cŵn ddangos parch tuag at ymwelwyr eraill drwy gadw at y llwybrau a pheidio â cherdded ar feddau a gerddi coffa gyda'u cŵn; mae'n rhaid codi unrhyw faw cŵn ar unwaith a'i roi yn y biniau a ddarperir. Gall goruchwyliwr y fynwent wrthod mynediad i dir y fynwent os na chydymffurfir â'r amodau hyn.

Teithio i Fynwent Pontybrenin

Côd post: SA4 4HQ

Teithio mewn car - O gyffordd 45 yr M4, ewch i'r de ar yr A483 tuag at Abertawe. Ar ôl un milltir a hanner, trowch i'r dde ar yr A484 tuag at Gorseinon. Yn y cylchfan nesaf, cymerwch y drydedd allanfa i Bentre'r Ardd a Phontybreinn ac mae'r fynwent hanner milltir i ffwrdd ar yr ochr chwith.

Teithio ar y bws - Mae'r fynwent ar brif lwybr bysus ac mae'r safle y tu allan i'r swyddfa. Mae'r gwasanaeth yn gweithredu o Orsaf Fysus y Cwadrant Abertawe i Gorseinon, Llanelli a Cydweli.

Teithio ar drên - Yr orsaf agosaf yw Gorsaf Abertawe ar y Stryd Fawr.  Gellir cael bysus a thacsis o flaen yr orsaf. Mae Mynwent Pontybrenin oddeutu 18 munud yn y car.

Mynwent Pontybrenin

Enw
Mynwent Pontybrenin
Rhif ffôn symudol
07980 721561
Close Dewis iaith