Toglo gwelededd dewislen symudol

TG i ddechreuwyr - Croesawu technoleg [Dydd Iau 10.00am-12.00pm] - DL042491.GP

Dydd Iau 2 Mai 2024
Amser dechrau 10:00
12:00
Pris Free

Hyd - 10 wythnos.


Mae'r cwrs TG anffurfiol anachrededig hwn yn addas ar gyfer y rheini sy'n ddechreuwyr o ran cyfrifiaduron, tabledi a thechnoleg clyfar. Mae'n addas ar gyfer y rheini sydd am ddysgu sut i ddefnyddio cyfrifiaduron, neu sydd â dyfeisiau personol ac sydd am ddysgu sut i'w defnyddio er mwyn cyrchu gwybodaeth, cyfryngua cymdeithasol a mwy.

Bydd dosbarthiadau galw heibio'n dechrau gyda phrofiad dysgu TG sylfaenol iawn er mwyn eich helpu i ddatblygu digon o wybodaeth a hyder i barhau â'ch taith gyfrous i ddefnyddio technoleg a darganfod y manteision o ganlyniad i hyn.

Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Sesiynau mewn ystafell ddosbarth a arweinir gan diwtor.
  • Esboniad o derminoleg technoleg.
  • Diogelwch ar-lein
  • Sut i wneud gweithredoedd sylfaenol
  • Dechrau cymwysiadau ymarferol
  • Taflenni a thaflenni arweiniad.

 

 Côd y cwrs: DL042491.GP

Canolfan y Bont

28 Heol Dulais

Pontarddulais

Abertawe

SA4 8PA

United Kingdom

Amserau eraill ar Dydd Iau 2 Mai

Dim enghreifftiau o hyn
Close Dewis iaith