Tynnu'r llun perffaith [Dydd Mercher, 12.30pm-2.30pm] - DL042438.LB
Hyd - 10 wythnos
Bydd y gweithdy hwn yn helpu'r rheini nad ydynt yn gwybod sut i ddefnyddio camera, a hefyd yn gwella sgiliau'r rheini y gall fod ganddynt ychydig o wybodaeth eisoes. Bydd ein tiwtor yn darparu cefnogaeth i helpu pob myfyriwr i wneud y defnydd gorau posib o'i gamera a magu hyder fel ffotograffydd.
Bydd elfennau'r gweithdy hwn yn cynnwys:
- Deall swyddogaethau'r holl symbolau hynny ar y camera a beth maent yn ei wneud
- Defnyddio cyfansoddiad yn effeithiol i greu ffotograff da drwy ddefnyddio technegau syml, fframio, llinellau arweiniol, y rheol dreian, lliw, ffurf a goleuo.
- Dewis gosodiadau'r camera yn unol â'r testun sydd yn y llun: portread, tirlun, chwaraeon neu facro (ffotgraffiaeth agos).
- Creu lluniau o ddiddordeb a fydd yn dal sylw'r person sy'n edrych ar y llun.
- Yn ystod sesiynau ymarferol, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i reoli a chyfuno holl swyddogaethau'r camera mewn ffordd greadigol.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Cyfle i sarbrofi a rhoi swyddogaethau a thechnegau a drafodwyd yn y dosbarth ar waith, gyda sesiynau ymarferol ar leoliad.
- Bwriedir i deithiau maes gael eu cynnal yn ystod y cwrs, efallai y byddant yn cynnwys ymuno â dosbarth arall fel y gellir treulio mwy o amser ar leoliad.
- Bydd amser hefyd yn cael ei dreulio yn y dosbarth er mwyn galluogi myfyrwyr i gyflwyno'u gwaith er mwyn cael sylwadau ac adborth.
- Bydd myfyrwyr yn cwblhau aseiniad a darperir adborth gan y tiwtor. Bydd hyn yn darparu cyfle delfrydol i ddod o hyd i'ch arddull unigryw, i archwilio pynciau a themâu gwahanol a chynhyrchu lluniau o ddiddordeb a strwythur.
Fformat dysgu: Wyneb-i-wyneb.
Côd y cwrs: DL042438.LB
Amserau eraill ar Dydd Mercher 22 Mai
Dim enghreifftiau o hyn
Dyddiad blaenorolDim rhagor ar gael
Dyddiad nesafDim rhagor ar gael