Lefel 1 - Sgiliau TG ar gyfer Gwaith a Bywyd [Dydd Mercher 9.30am-11.30am] DL092494.NE
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys tri thymor dysgu, gyda'r nôd o ddarparu sgiliau ac unedau achrededig i chi ar Lefel 1 Agored Cymru.
Enillwch y sgiliau TGCh i weithredu a symud ymlaen mewn gwaith, addysg a bywyd bob dydd, gan ddefnyddio Technoleg Ddigidol er eich budd chi. Defnyddiwch gymwysiadau meddalwedd prosesu geiriau ac archwiliwch yr offer i olygu a fformatio dogfennau. Dylunio, paratoi a darparu cyflwyniadau digidol ac ennill y sgiliau a'r technegau i ddefnyddio taenlenni yn llwyddiannus. Dysgu rheoli ffeiliau, gan gynnwys arbed, sicrhau a rhannu dogfennau, fel un o'r sgiliau allweddol a drafodir yn ystod y cwrs hwn.
Bydd y cwrs, a gyflwynir dros dri thymor 12 wythnos, yn eich helpu i wella'ch cynhyrchiant gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd TGCh a swyddfa. Bydd yn eich helpu i ddeall manteision defnyddio prosesu geiriau, cyflwyniadau a thaenlenni, yn ogystal â darparu'r sgiliau a'r achrediadau cydnabyddedig i chi i'w defnyddio'n effeithiol.
Ymhlith y sgiliau a addysgir mae:
- Creu, golygu a fformatio dogfennau wedi'u prosesu â geiriau.
- Creu cyflwyniadau digidol.
- Cynhyrchu a defnyddio taenlenni yn effeithiol.
- Rhoeli ffeiliau
Bydd yr unedau Agored Cymru dan sylw yn cynnwys:
- Technegau Prosesu Geiriau, creu Cyflwyniadau Digidol, Technegau Taenlen.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Sesiynau dosbarth, dan arweiniad tiwtor.
- Taflenni a thaflenni canllaw ar gael i lawrllwytho ac argraffu.
- Gwaith prosiect ar gyfer achredu
Fformat dysgu: Wyneb-i-wyneb
Côd cwrs: DL092494.NE