Toglo gwelededd dewislen symudol

Grŵp Cyflawni Digwyddiadau Mawr - 9 Hydref 2024

Cynhaliwyd ail gyfarfod y Grŵp Cyflawni ar gyfer Cynllun Rheoli Cyrchfannau (CRhC) 2023-2026 ar 9 Hydref 2024 yn Neuadd y Ddinas. 

Roedd hwn yn gyfle i aelodau'r diwydiant twristiaeth lleol gael rhagor o wybodaeth am werth digwyddiadau mawr i'r ardal, a sut i fod yn rhan o'r broses.

Rhoddodd David Price-Deer, Rheolwr Digwyddiadau Arbennig, yr wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Cyngor Abertawe'n rheoli digwyddiadau mawr, o iechyd a diogelwch a chyfathrebiadau i farchnata ac asesiadau effaith economaidd.

Mae copi o'r cyflwyniad ar gael isod: 

Rheoli Digwyddiadau Mawr yn Abertawe (PDF, 1 MB)

Cyflwynodd y siaradwr gwadd, Dean Smith o IronMan UK & IRL, drosolwg o IronMan 70:3 Abertawe a beth mae'r digwyddiad yn ei olygu ar gyfer Abertawe.

Gallwch lawrlwytho'r cyflwyniad yma:

IronMan 70:3 Abertawe (PDF, 4 MB)

Daeth y digwyddiad i ben gyda sesiwn holi ac ateb.

Dolenni a chysylltiadau defnyddiol yn dilyn y trafodaethau:

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cynllun Rheoli Cyrchfannau neu'r digwyddiad, e-bostiwch Tourism.Team@abertawe.gov.uk 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 01 Tachwedd 2024