Grŵp Cyflawni - CroesoBayAbertawe.com a TXGB - 18 Chwefror 2025
Cynhaliwyd y trydydd Grŵp Cyflawni ar gyfer y Cynllun Rheoli Cyrchfannau (CRhC) 2023-2026 ar 18 Chwefror 2025 yn Neuadd y Ddinas.
Roedd y cyfarfod yn gyfle i aelodau'r diwydiant twristiaeth lleol gael rhagor o wybodaeth am y wefan swyddogol newydd a sut i gymryd rhan yn yr ymgyrchoedd marchnata.
Cyflwynodd Chris Williams, Uwch Swyddog Marchnata Digidol y diweddaraf am ailddatblygiad www.croesobaeabertawe.com a'r cyfleoedd y mae'r llwyfan marchnata newydd hwn yn eu cyflwyno ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch lleol.
Mae copi o'r cyflwyniad ar gael isod:
Visit Swansea Bay - website redevelopment (PDF, 286 KB)
Cyflwynodd Celine Clancy, Rheolwr Rheoli Cyrchfannau a Marchnata drosolwg o'n hymgyrchoedd marchnata cyrchfannau yn 2024 a'r hyn a drefnwyd ar gyfer gweddill 2025.
Mae copi o'r cyflwyniad ar gael isod:
Visit Swansea Bay - Destination Marketing 2024-2025 (PDF, 1 MB)
Yn olaf, rhoddodd y siaradwr gwadd Claire Owen o MWT Cymru gyflwyniad ar Tourism Exchange Great Britain (TXGB), y farchnad ddigidol sy'n gallu eich helpu i ehangu eich busnes neu ganiatáu pobl i gadw lle ar-lein am y tro cyntaf erioed. Trwyddedir TXGB gan gwmni Croeso Cymru a gall yr holl weithredwyr twristiaeth yng Nghymru ei ddefnyddio am ddim.
Mae copi o'r cyflwyniad ar gael isod:
TXGB and Visit Wales (PDF, 3 MB)
Dolenni a chysylltiadau defnyddiol yn dilyn y trafodaethau:
Dewch yn Bartner croesobaeabertawe.com
Using the Cymru Wales brand hub
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Cynllun Rheoli Cyrchfannau neu'r digwyddiad, e-bostiwch Tourism.Team@abertawe.gov.uk