Peiriannydd Prosiect Digidol ac Arloesi (dyddiad cau: 08/05/25)
£35,235 - £38,626 y flwyddyn. (Dros Dro) Mae cyfle cyffrous wedi codi yn yr adran Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid i Beiriannydd Prosiect Digidol ac Arloesi ymuno â'r tîm Prosiect ac Arloesi. Rydym yn chwilio am ymgeisydd brwdfrydig, llawn cymhelliant, trefnus a chymwysterau priodol i ymgymryd â'r rôl hon, a fydd yn adrodd i'r Pensaer Datrysiadau Seilwaith.
Teitl y swydd: Peiriannydd Prosiect Digidol ac Arloesi
Rhif y swydd: CS.73676
Cyflog: £35,235 - £38,626 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Peiriannydd Prosiect Digidol ac Arloesi (CS.73676) Disgrifiad Swydd (PDF, 271 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Corfforaethol
Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd CS.73676
Dyddiad cau: 11.45pm, 8 Mai 2025
Rhagor o wybodaeth
Rydym yn chwilio am Beiriannydd Prosiect Digidol ac Arloesi i ymuno â'n tîm Prosiectau ac Arloesi. Mae'r tîm hwn yn gyfrifol am ddatblygu, arloesi a defnyddio technolegau gwasanaeth digidol ar draws yr holl adrannau corfforaethol, ysgolion a llyfrgelloedd yng Nghyngor Abertawe.
Bydd ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at ymchwil, dylunio, datblygu a dogfennu technolegau. Byddant hefyd yn gyfrifol am gael y wybodaeth ddiweddaraf am dechnolegau newydd a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg i wella gwasanaethau a chefnogaeth ledled y sefydliad.
Mae'n ofynnol i'r deiliad swydd gymryd rhan weithredol mewn diwylliant o arloesi, i fod yn rhagweithiol wrth nodi ac awgrymu meysydd i'w gwella mewn Gwasanaethau Digidol a chwsmeriaid. Mae brwdfrydedd, cymhelliant a diddordeb mewn technolegau newydd a sy'n dod i'r amlwg yn allweddol i'r swydd hon.
Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol